Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 1

1
Rhag‐redegydd Crist
[Mat 3:1–12; Luc 3:1–18; Ioan 1:23]
1-2Dechreu Efengyl Iesu Grist, Fab#1:1 Fab Duw A B D Brnd. ond Ti. WH.; gad. א. Duw: fel y mae yn ysgrifenedig yn Esaiah#1:2 Esaiah y Proffwyd א B D L Brnd. Yn y Prophwydi A. y Proffwyd#1:1–2 Nid yw y dyfyniad o Malachi ond rhyw esponiad canolog a rhagymadrodd i'r un o Esaiah., —
Wele, yr wyf yn anfon fy nghenad o flaen dy wyneb,
Yr hwn a barotöa dy ffordd#1:1–2 o'th flaen; gad. א B D L Brnd.#Mal 3:1.
3Llef un yn llefain#1:3 Neu, Llef un yn llefain yn y diffaethwch, — Parotowch, &c. Dylid cyfieithu Es 40:3, — Yn yr anialwch parotowch ffordd yr Arglwydd; Yn y diffaethwch unionwch lwybr i'n Duw ni., —
Yn y diffaethwch parotowch ffordd yr Arglwydd:
Gwnewch yn uniawn ei lwybrau ef#Es 40:3.
4Daeth Ioan Fedyddiwr yn y diffaethwch, gan bregethu bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau. 5Ac aeth allan ato ef holl wlad Judea, a hwy#1:5 Felly א B D L Brnd. oll o Jerusalem; a hwy a fedyddiwyd ganddo yn afon yr Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau. 6Ac Ioan oedd wedi ei wisgo a blew camel, a gwregys o groen#1:6 Neu, lledr. o gylch ei lwynau, ac yn bwyta locustiaid#1:6 “Y mae dynion a elwir bwytäwyr locustiaid, i'r rhai bob gwanwyn y mae y gwynt yn dwyn heidiau o locustiaid ar y rhai yr ymborthant ar hyd eu bywyd. Yn Arabia y mae mêl yn tyfu ar y coed, yr hwn a elwir yn fêl gwyllt, yr hwn a gymmysgant â dwfr, ac a ddefnyddiant fel diod” Diodorus. a mêl gwyllt. 7Ac efe a bregethodd#1:7 Neu, a gyhoeddodd., gan ddywedyd, Y mae yn dyfod ar fy ol i un cryfach na myfi, carrai esgidiau#1:7 Neu, sandalau. yr hwn nid wyf deilwng#1:7 Groeg: ddigonol. i ymostwng a'i dattod. 8Myfi#1:8 yn wir A D P (o Matthew a Luc); gad. א B L Brnd. a'ch bedyddiais chwi mewn#1:8 mewn dwfr A D L La. Tr. Diw. A dwfr א B Ti. WH. dwfr; eithr efe a'ch bedyddia chwi yn#1:8 Felly א A D Ti. Tr. La. yr Yspryd Glân.
Bedyddiad Crist
[Mat 3:13–17; Luc 3:21, 22; Ioan 1:31–34]
9A bu yn y dyddiau hyny, ddyfod o'r Iesu o Nazareth yn Galilea, ac efe a fedyddiwyd gan Ioan yn#1:9 Groeg: i'r. yr Iorddonen. 10Ac yn ebrwydd wrth ddyfod i fyny allan#1:10 Golyga ek dyfod allan o beth wed bod ynddo; apo, dyfod oddiwrtho.#1:10 ek, allan o א B D L Brnd.; apo, oddiwrth A P. o'r dwfr, efe a welodd y Nefoedd wedi ei rhwygo, a'r Yspryd fel colomen yn disgyn tu#1:10 eis, tu ag at B D Tr. WH.; epi, ar, א A P Diw. ag ato ef. 11A llef a ddaeth o'r Nefoedd, Tydi yw fy anwyl Fab, ynot#1:11 soi, ynot, א B D L Brnd. ti y'm boddlonwyd.
Y Temtiad
[Mat 4:1–11; Luc 4:1–13]
12Ac yn ebrwydd y mae yr Yspryd yn ei yru ef allan i'r Diffaethwch: 13Ac efe a fu yn y Diffaethwch ddeugain niwrnod yn cael ei demtio gan Satan; ac yr oedd efe gyda y gwylltfilod; a'r Angelion a weiniasent iddo.
Dechreuad ei Weinidogaeth: Galw ei Ddysgyblion
[Mat 4:12–22; Luc 4:14, 15; 5:10, 11]
14Ac ar ol traddodi Ioan, yr Iesu a ddaeth i Galilea, gan bregethu Efengyl#1:14 Efengyl Duw א B L Ti. Tr. Diw. Efengyl Teyrnas Dduw A D La. Duw, 15a dywedyd, Y mae yr amser wedi ei gyflawnu, ac y mae Teyrnas Dduw wedi neshâu: Edifarhewch, a chredwch yr Efengyl. 16Ac wrth fyned#1:16 myned heibio א B D L, &c., Brnd. heibio ar làn Môr Galilea, efe a welodd Simon, ac Andreas brawd Simon#1:16 Simon א B L M Brnd., yn bwrw#1:16 rhwyd gad. א B L; Llyth.: yn bwrw oddiamgylch, h. y. rhwyd. rhwyd yn y môr: canys pysgodwyr oeddynt. 17A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Deuwch ar fy ol i, a mi a'ch gwnaf i fod yn bysgodwyr dynion. 18Ac yn ebrwydd gan adael y rhwydau, y canlynasant ef. 19Ac wedi iddo fyned rhagddo ychydig#1:19 oddiyno א A C; gad. B D L Brnd., efe a welodd Iago, Mab Zebedëus, ac Ioan ei frawd ef, a hwy yn y cwch yn cyweirio y rhwydau. 20Ac yn ebrwydd efe a'u galwodd hwynt: a hwy a adawsant eu tâd Zebedëus yn y cwch gyda'r cyflog‐weision, ac a aethant ar ei ol ef.
Yn y Synagog: yn iachau dyn ag yspryd aflan ynddo
[Luc 4:31–37]
21Ac y maent yn myned i mewn i Capernäum: ac yn ebrwydd ar y Sabbath efe a aeth i mewn i'r Synagog, ac a ddysgodd. 22A hwy a darawyd a syndod#1:22 ekplêssô, taro allan, gyru allan, taro un allan o hunan‐feddiant, taro a dychryn, ofn, syndod. &c. wrth ei ddysgeidiaeth ef: canys yr oedd efe yn eu dysgu hwynt fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr Ysgrifenyddion. 23Ac yn#1:23 yn ebrwydd א B L Ti. WH., Al. Diw.; gad. A C D Tr. rhan fwyaf o'r cyf. ebrwydd yr oedd yn eu Synagog ddyn gyd ag yspryd aflan; ac efe a lefodd, 24gan ddywedyd, Beth#1:24 Ea [cyfryngair a ddynoda ddigllonedd neu syndod yn gymmysgedig ag ofn. Och!] A C; gad א B D. sydd i ni a wnelom â thi#1:24 Llyth.: Pa beth i ni ac i ti?, Iesu o Nazareth? A ddaethost ti i'n dyfetha ni? mi a'th adwaen pwy ydwyt, Sanct Duw#Dan 9:24. 25A'r Iesu a'i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Taw#1:25 Phimoô (phimos, safnrwym, S. muzzle), cau safn [“Na chau safn yr ych,” 1 Cor 9:9], gwneyd i fod yn ddystaw, tewi., a dos allan o hono. 26Yna wedi i'r yspryd aflan ei daflu i bangfeydd#1:26 Sparasso, dirdynu, ysgwyd, taflu i ddirdynloes (convulsion)., a gwaeddi a llef uchel, efe a ddaeth allan o hono. 27A hwy a synasant#1:27 Neu, a feddianwyd ag ofn [Act 9:6]. oll, fel yr ymofynasant yn eu mysg eu hunain, Pa beth yw hyn? Dysgeidiaeth#1:27 Felly א B L. Y mae A a C a D yn amrywio yn eu darlleniadau, ond y mae yr un ystyr yn y tair, — “Pa ddysgeidiaeth newydd yw hon?” newydd#1:27 Neu Dysgeidiaeth newydd gyd ag awdurdod: y mae efe yn gorchymyn, &c.! gyd ag awdurdod y mae efe yn gorchymyn hyd y nod yr ysprydion aflan, a hwy a ufuddhant iddo. 28Ac yn ebrwydd yr aeth allan sôn am dano yn#1:28 Yn mhob man B C L Ti. Tr. WH. Diw.; gad. א A D La. mhob man dros yr holl wlad o amgylch Galilea.
Iachau chwegr Simon
[Mat 8:14, 15; Luc 4:38, 39]
29Ac yn ebrwydd wedi iddynt#1:29 Felly א A C L Ti. WH. Diw.; wedi iddo ddyfod … efe a ddaeth B D La. Tr. [o Mat. a Luc]. ddyfod allan o'r Synagog hwy#1:29 Felly א A C L Ti. WH. Diw.; wedi iddo ddyfod … efe a ddaeth B D La. Tr. [o Mat. a Luc]. a ddaethant i dy Simon ac Andreas gyd ag Iago ac Ioan. 30Ac yr oedd chwegr#1:30 Neu, mam gwraig. Simon yn gorwedd yn glaf o dwymyn; ac yn ebrwydd y dywedesant wrtho am dani hi. 31Ac efe a ddaeth ac a'i cododd hi i fyny, gan ymaflyd yn ei llaw hi; a'r dwymyn a'i gadawodd, a hi a wasanaethodd arnynt hwy.
Iachau Amryw Eraill.
32Ac wedi iddi hwyrhâu, pan fachludodd yr haul, hwy a ddygasant ato ef yr holl gleifion, a'r rhai a feddianid gan gythreuliaid. 33A'r holl Ddinas oedd wedi ymgasglu at eu gilydd wrth y drws. 34Ac efe a iachaodd lawer oeddynt gleifion o amrywiol glefydau, ac a fwriodd allan lawer o gythreuliaid, ac ni chaniataodd i'r cythreuliaid lefaru, oblegyd yr oeddynt yn ei adwaen ef#1:34 Felly א A D Δ La. Tr. Diw.; canys gwybuent mai efe oedd y Crist B L WH..
35Ac yn fore#1:35 Prôi, yn y boreu [yn cael ei ddefnyddio yn briodol am y bedwaredd wyliadwriaeth, o dri i chwech o'r gloch yn y boreu]., yn hir cyn iddi wawrio#1:35 Llyth.: a hi yn mhell yn y nos, efe a ddaeth allan, ac a aeth i le annghyfanedd, ac yno yr oedd efe yn gweddio. 36A Simon, a'r rhai oedd gyd ag ef a ddylynasant#1:36 Katadiôkô, erlyn, dylyn yn daer, fel rhai yn ceisio un. yn ddyfal ar ei ol ef, 37ac a'i cawsant#1:37 dim nodyn. ef, ac a ddywedasant wrtho, Y mae pawb yn dy geisio. 38Ac efe a ddywed wrthynt, Awn i leoedd#1:38 allachou, i le neu leoedd eraill א B C L Ti. Tr. WH. Diw.; gad. A D La. eraill, i'r trefi#1:38 Komopoleis, pentrefi bron yn drefi neu yn ddinasoedd o ran maint a phoblogaeth, heb gaerau neu furiau o'u hamgylch. Ni ddefnyddir y gair ond yma yn y T N. cymydogaethol#1:38 echomenos, yn ymylu ar, yn cyffinio, yn agos, uesaf., fel y pregethwyf yno hefyd: canys i hyny y daethum allan. 39Ac efe a aeth i'w Synagogau hwynt, trwy holl Galilea, gan bregethu a bwrw allan gythreuliaid.
Iachau y Gwahan‐glwyfus
[Mat 8:2–4; Luc 5:12–15]
40Ac y mae yn dyfod ato un gwahan‐glwyfus, gan ymbil ag ef, [a syrthio ar ei liniau iddo]#1:40 Felly א A C L Δ [Tr. Al. WH.]; gad. B D G., a dywedyd wrtho, Os myni, ti a elli fy nghlanhâu. 41A chan dosturio, efe#1:41 Yr Iesu A C.; gad. B D. a estynodd ei law, a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywed wrtho, Mynaf, bydd lân. 42Ac#1:42 Felly א B D L Brnd. ond Al. yn ebrwydd yr ymadawodd y gwahan‐glwyf ag ef, a glanhâwyd ef. 43Ac wedi gorchymyn#1:43 embrimaomai, bod yn llidiog, digllawn; am anifeiliaid, rhuo, ffroeni: yn y T. N. yn unig, gorchymyn yn surlym, &c. yn ddifrifol iddo, efe a'i hanfonodd#1:43 Llyth.: bwriodd allan. ef ymaith yn ebrwydd, ac a ddywed wrtho, 44Gwel na ddywedych ddim wrth neb: eithr dos ymaith: dangos dy hun i'r offeiriad, ac offryma am dy lanhâd y pethau a orchymynodd Moses, er tystiolaeth iddynt hwy. 45Eithr efe a aeth allan, ac a ddechreuodd gyhoeddi llawer a thaenu y gair ar led, fel na allai efe mwyach fyned yn amlwg i#1:45 Neu, i'r Ddinas. ddinas; eithr yr oedd efe y tu allan mewn lleoedd annghyfanedd; ac yr oeddynt yn dyfod ato efe o bob parth.

Dewis Presennol:

Marc 1: CTE

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda