Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Lefiticus 24

24
1 Olew y llusernau. 5 Y bara gosod. 10 Mab Selomith yn cablu. 13 Cyfraith cabledd, 17 a llofruddiaeth. 18 Am golled. 23 Llabyddio y cablwr.
1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2#Exod 27:20Gorchymyn i feibion Israel ddwyn atat olew olewydden pur, coethedig, i’r goleuni, i beri i’r lampau #24:2 Heb. ddyrchafu.gynnau bob amser. 3O’r tu allan i wahanlen y dystiolaeth, ym mhabell y cyfarfod, y trefna Aaron ef o hwyr hyd fore, gerbron yr Arglwydd, bob amser. Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau fydd hyn. 4Ar y canhwyllbren #Exod 31:8pur y trefna efe y lampau gerbron yr Arglwydd bob amser.
5A chymer beilliaid, a phoba ef yn ddeuddeg #Exod 25:30teisen: dwy ddegfed ran fydd pob teisen. 6A gosod hwynt yn ddwy res, chwech yn y rhes, ar y bwrdd pur, gerbron yr Arglwydd. 7A dod thus pur ar bob rhes, fel y byddo ar y bara, yn goffadwriaeth, ac yn aberth tanllyd i’r Arglwydd. 8Ar bob dydd Saboth y trefna efe hyn gerbron yr Arglwydd bob amser, yn gyfamod tragwyddol oddi wrth feibion Israel. 9A #Exod 29:33; Pen 8:31; 1 Sam 21:6; Mat 12:4bydd eiddo Aaron a’i feibion; a hwy a’i bwyty yn y lle sanctaidd: canys sancteiddiolaf yw iddo ef o ebyrth tanllyd yr Arglwydd, trwy ddeddf dragwyddol.
10A mab gwraig o Israel, a hwn yn fab gŵr o’r Aifft, a aeth allan ymysg meibion Israel; a mab yr Israeles a gŵr o Israel a ymgynenasant yn y gwersyll. 11A mab y wraig o Israel a gablodd enw yr Arglwydd, ac a felltigodd: yna y dygasant ef at Moses: ac enw ei fam oedd Selomith, merch Dibri, o lwyth Dan. 12#Num 15:34A gosodasant ef yng ngharchar, fel yr hysbysid iddynt o enau yr Arglwydd beth a wnaent. 13A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 14Dwg y cablydd i’r tu allan i’r gwersyll: a #Deut 13:9; 17:7rhodded pawb a’i clywsant ef eu dwylo ar ei ben ef, a llabyddied yr holl gynulleidfa ef. 15A llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pwy bynnag a gablo ei Dduw, a ddwg ei bechod. 16A #1 Bren 21:10, 13lladder yn farw yr hwn a felltithio enw yr Arglwydd; yr holl gynulleidfa gan labyddio a’i llabyddiant ef: lladder yn gystal y dieithr a’r priodor, pan gablo efe enw yr Arglwydd.
17 # Exod 21:12; Num 35:31; Deut 19:21 A’r neb a #24:17 Heb. a darawo einioes dyn.laddo ddyn, lladder yntau yn farw. 18A’r hwn a laddo anifail, taled amdano; #24:18 Heb. einioes am einioes.anifail am anifail. 19A phan wnelo un anaf ar ei gymydog; fel #Exod 21:24; Deut 19:21; Mat 5:38y gwnaeth, gwneler iddo: 20Toriad am doriad, llygad am lygad, dant am ddant: megis y gwnaeth anaf ar ddyn, felly gwneler iddo yntau. 21#Exod 21:33A’r hwn a laddo anifail, a dâl amdano: a laddo ddyn, a leddir. 22Bydded #Exod 12:49un farn i chwi; bydded i’r dieithr, fel i’r priodor: myfi ydwyf yr Arglwydd eich Duw.
23A mynegodd Moses hyn i feibion Israel: a hwynt a ddygasant y cablydd i’r tu allan i’r gwersyll, ac a’i llabyddiasant ef â cherrig. Felly meibion Israel a wnaethant megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.

Dewis Presennol:

Lefiticus 24: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda