Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Sechareia 7

7
Cwestiwn am Ymprydio
1Yn y bedwaredd flwyddyn o deyrnasiad y Brenin Dareius, ar y pedwerydd o fis Cislef (sef y nawfed mis),#7:1 Yn y bedwaredd … nawfed mis Cislef oedd nawfed mis calendr Babilon, o tua canol Tachwedd i ganol Rhagfyr; pedwaredd blwyddyn teyrnasiad Dareius oedd 518 cc Mae’r dyddiad yma’n cyfateb i Rhagfyr 7, 518 cc yn ein calendr ni. dyma’r ARGLWYDD yn rhoi neges i Sechareia. 2Roedd pobl Bethel wedi anfon Saretser a Regem-melech a’i ddynion i ofyn am fendith yr ARGLWYDD. 3Roedden nhw hefyd i fynd i deml yr ARGLWYDD hollbwerus, a gofyn i’r offeiriaid a’r proffwydi, “Ddylen ni ddal i alaru ac ymprydio yn y pumed mis,#7:3 pumed mis Roedden nhw’n gwneud hyn i gofio teml Solomon yn cael ei dinistrio gan y Babiloniaid ar Awst 14, 586 cc, bron saith deg mlynedd cyn hynny – gw. 2 Brenhinoedd 25:8-9. fel dŷn ni wedi gwneud ar hyd y blynyddoedd?”#7:3 Mae’r ateb i’r cwestiwn yn cael ei roi yn 8:19.
4Dyma fi’n cael neges gan yr ARGLWYDD hollbwerus. 5“Dwed wrth bobl y wlad, a’r offeiriaid i gyd: ‘Dych chi wedi bod yn ymprydio ac yn galaru yn y pumed a’r seithfed mis#7:5 seithfed mis Ympryd i gofio llofruddiaeth Gedaleia (sef y dyn gafodd ei benodi gan y Babiloniaid i reoli Jwda ar ôl iddyn nhw goncro’r wlad) – gw. 2 Brenhinoedd 25:22,25 a Jeremeia 41:1-3. ers saith deg mlynedd. Ond ydych chi wir wedi bod yn gwneud hynny i mi? 6Na, fel pan dych chi’n yfed a gwledda, dych chi’n ei wneud i blesio’ch hunain!’ 7Dyna’n union beth roedd yr ARGLWYDD yn ei ddweud drwy ei broffwydi bryd hynny,#Eseia 1:10-15; 58:1-7; Amos 5:21-24 pan oedd Jerwsalem a’r pentrefi o’i chwmpas yn ffynnu, a phobl yn byw yn y Negef i’r de a’r iseldir yn y gorllewin.”
Y rheswm am y Gaethglud
8A dyma Sechareia’n cael neges arall gan yr ARGLWYDD. 9“Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus wedi bod yn ei ddweud,
‘Byddwch yn deg bob amser,
yn garedig a thrugarog at eich gilydd.
10Peidiwch cam-drin gwragedd gweddwon,
plant amddifad, mewnfudwyr a phobl dlawd.#Eseia 1:17,23; Jeremeia 5:28; 7:5-7; 21:12; 22:3; Amos 5:14-15,24; Micha 6:8
A pheidiwch bwriadu drwg i unrhyw un arall.’
11“Ond doedden nhw’n cymryd dim sylw. Roedden nhw’n hollol benstiff, ac yn gwrthod yn lân a gwrando. 12Roedd eu calonnau’n galed fel diemwnt,#Eseciel 3:7-9 nes eu bod yn gwrthod gwrando ar fy nysgeidiaeth, nac ar y negeseuon eraill roedd fy Ysbryd wedi’u rhoi i’r proffwydi cynnar yna eu cyhoeddi. A dyna pam wnaeth yr ARGLWYDD hollbwerus dywallt ei lid arnyn nhw.
“Dwedodd yr ARGLWYDD hollbwerus.
13‘Pan oeddwn i’n galw arnyn nhw,
doedden nhw ddim yn gwrando.
Felly pan fyddan nhw’n galw arna i,
fydda i ddim yn gwrando chwaith.#Jeremeia 11:11; 35:17; Eseciel 8:18; Micha 3:4
14Yn lle hynny bydda i’n eu hysgubo nhw i ffwrdd
mewn storm i wledydd dieithr.’
“A dyna pam mae’r wlad yma’n anial, heb neb yn mynd a dod ynddi. Nhw sydd wedi gwneud y tir hyfryd yma yn anialwch diffaith!”

Dewis Presennol:

Sechareia 7: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda