Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Sechareia 12

12
Achub Jerwsalem rhag ei gelynion
1Y neges roddodd yr ARGLWYDD am Israel – ie, neges gan yr ARGLWYDD,
Yr Un wnaeth ledu’r awyr
a gosod sylfeini’r ddaear,
a rhoi anadl bywyd i bobl.
2“Dw i’n mynd i wneud Jerwsalem yn gwpan feddwol. Bydd yn gwneud i’r gwledydd o’i chwmpas feddwi’n gaib pan fyddan nhw’n ymosod arni hi a Jwda. 3Bryd hynny bydda i’n gwneud Jerwsalem yn garreg enfawr rhy drwm i’r gwledydd ei chario. Bydd pawb sy’n ceisio’i symud yn gwneud niwed difrifol iddyn nhw’u hunain! Bydd y gwledydd i gyd yn dod yn ei herbyn.”
4“Bryd hynny,” meddai’r ARGLWYDD, “bydda i’n gwneud i’r ceffylau rhyfel ddrysu’n llwyr, ac yn gyrru’r marchogion i banig. Bydda i’n gwylio Jwda’n ofalus. Bydd fel petai ceffylau’r gelynion i gyd yn ddall! 5Yna bydd arweinwyr Jwda yn sylweddoli mai cryfder pobl Jerwsalem ydy eu Duw, yr ARGLWYDD hollbwerus.
6“Bryd hynny bydda i’n gwneud arweinwyr Jwda fel padell dân mewn pentwr o goed, neu ffagl yn llosgi mewn tas wair. Byddan nhw’n llosgi’r gwledydd sydd o’u cwmpas. A bydd pobl Jerwsalem yn setlo i lawr unwaith eto yn eu cartref, dinas Jerwsalem. 7Bydd yr ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i fyddin Jwda gyntaf, fel bod arweinwyr Jerwsalem a llinach frenhinol Dafydd ddim yn cael mwy o anrhydedd na phobl gyffredin Jwda.
8“Bryd hynny bydd yr ARGLWYDD ei hun yn amddiffyn pobl Jerwsalem. Bydd y person gwannaf yn eu plith fel y Brenin Dafydd ei hun, a bydd y teulu brenhinol fel Duw, neu angel yr ARGLWYDD yn mynd o’u blaenau.
Galaru drwy’r wlad
9“Bryd hynny bydda i’n mynd ati i ddinistrio’r gwledydd sy’n ymosod ar Jerwsalem! 10Bydda i’n tywallt ar deulu brenhinol Dafydd a phobl Jerwsalem awydd i brofi haelioni Duw a’i faddeuant. Wrth edrych arna i, yr un maen nhw wedi’i drywanu, byddan nhw’n galaru fel mae pobl yn galaru am eu hunig fab. Byddan nhw’n wylo’n chwerw, fel rhieni’n wylo ar ôl colli eu hunig blentyn neu eu mab hynaf.
11“Bryd hynny, bydd sŵn y galaru yn Jerwsalem fel y galaru yn Hadad-rimmon ar wastatir Megido.#12:11 galaru … Megido Falle mai cyfeiriad sydd yma at farwolaeth y Brenin Joseia mewn brwydr yn Megido yn 609 cc Joseia oedd y brenin olaf yn Jwda i gael ei ddisgrifio fel brenin da (2 Brenhinoedd 22:1-2; 23:25,28-30; 2 Cronicl 35:20-27). 12Bydd y wlad i gyd yn galaru, pob clan ar wahân, a’r dynion a’r gwragedd yn galaru ar wahân – teulu brenhinol Dafydd, a’u gwragedd ar wahân; teulu Nathan,#12:12 Nathan Un o feibion Dafydd – (2 Samuel 5:14; 1 Cronicl 3:5; 4:4; Luc 3:31). a’u gwragedd ar wahân; 13teulu Lefi, a’u gwragedd ar wahân; teulu Shimei,#12:13 Shimei Un o feibion Gershon mab Lefi (gw. Numeri 3:18). a’u gwragedd ar wahân; 14a phob clan arall oedd ar ôl – pob teulu’n galaru ar eu pennau’u hunain, a’u gwragedd yn galaru ar eu pennau’u hunain.”

Dewis Presennol:

Sechareia 12: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda