Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Titus 1

1
1Llythyr gan Paul, gwas i Dduw a chynrychiolydd personol Iesu y Meseia. Dw i’n gweithio er mwyn gweld y rhai mae Duw wedi’u dewis yn dod i gredu, a’u helpu nhw i ddeall y gwir yn well, iddyn nhw allu byw fel mae Duw am iddyn nhw fyw. 2Mae’n rhoi sicrwydd iddyn nhw fod ganddyn nhw fywyd tragwyddol. Dyma’r bywyd wnaeth Duw ei addo cyn i amser ddechrau – a dydy Duw ddim yn gallu dweud celwydd! 3Pan ddaeth yr amser iawn daeth â’r newyddion da i’r golwg a rhoi’r cyfrifoldeb i mi i’w gyhoeddi. Duw ein Hachubwr sydd wedi gorchymyn i mi wneud hyn.
4Titus, rwyt ti wir fel mab i mi, gan dy fod yn credu yn y Meseia fel dw i:
Dw i’n gweddïo y byddi di’n profi’r haelioni rhyfeddol a’r heddwch dwfn mae Duw y Tad a’r Meseia Iesu, ein Hachubwr, yn ei roi i ni.
Gwaith Titus ar Ynys Creta
5Y rheswm pam adewais di ar Ynys Creta oedd er mwyn i ti orffen rhoi trefn ar bethau yno. Dwedais fod eisiau penodi arweinwyr yn yr eglwysi ym mhob un o’r trefi. 6Ddylai pobl ddim gallu pigo bai ar fywyd un sy’n arwain yn yr eglwys. Dylen nhw fod yn ffyddlon i’w priod#1:6 yn ffyddlon i’w priod: Groeg, yn ŵr un wraig. Gall y geiriad Groeg gynnwys y syniad o ‘wraig un gwr’ hefyd., a’u plant yn ffyddlon a ddim yn wyllt ac yn afreolus. 7Rhaid i arweinydd fod yn ddi-fai, am mai Duw sydd wedi rhoi’r cyfrifoldeb iddyn nhw. Ddylen nhw ddim bod yn benstiff, nac yn fyr eu tymer. Ddim yn meddwi, ddim yn ymosodol, a ddim yn gwneud arian ar draul pobl eraill. 8Dylen nhw fod yn bobl groesawgar, yn gwneud beth sy’n dda, yn gyfrifol, yn gwbl deg, yn dduwiol ac yn gallu rheoli eu chwantau. 9Dylen nhw fod yn rhai sy’n credu’n gryf yn y neges glir gafodd ei dysgu. Wedyn byddan nhw’n gallu annog pobl eraill gyda dysgeidiaeth gywir, ac argyhoeddi’r rhai sy’n dadlau yn eu herbyn.
10Mae llawer iawn o bobl allan yna sy’n tynnu’n groes i’r gwir. Dw i’n meddwl yn arbennig am yr Iddewon hynny sy’n siarad cymaint o nonsens, ac yn twyllo pobl i feddwl fod mynd drwy ddefod enwaediad yn hanfodol bwysig i gael eich achub. 11Mae’n rhaid rhoi taw arnyn nhw! Maen nhw wedi cael teuluoedd cyfan i gredu syniadau hollol anghywir. Dim ond eisiau’ch arian chi maen nhw! 12Mae un o’r Cretiaid eu hunain, un sy’n broffwyd yn eu golwg nhw, wedi dweud,
“Mae Cretiaid yn bobl gelwyddog
– bwystfilod drwg ydyn nhw,
pobl farus a diog!” # 1:12 dywediad a briodolir i Epimenides (bardd o Cnosos ar Ynys Creta – 6ed ganrif cc) ( gw. hefyd Actau 17:28, lle mae Paul yn dyfynnu llinell arall o’i waith).
13Ac mae’n hollol wir! Felly rhaid i ti eu rhybuddio nhw’n llym, er mwyn iddyn nhw gredu beth sy’n wir. 14Dwed wrthyn nhw am beidio cymryd sylw o chwedlau Iddewig, ac i stopio gwrando ar bobl sydd wedi troi cefn ar y gwir. 15Mae popeth yn bur i’r rhai sydd â chalon bur, ond does dim byd yn bur i’r rhai hynny sydd wedi’u llygru a ddim yn credu. Y ffaith ydy bod meddwl a chydwybod y bobl yma wedi’u llygru. 16Maen nhw’n honni eu bod nhw’n nabod Duw, ond maen nhw’n ei wadu drwy beth maen nhw’n ei wneud. Pobl gwbl atgas ydyn nhw, ac anufudd i Dduw. Allan nhw wneud dim byd da!

Dewis Presennol:

Titus 1: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda