O achos beth wnaeth y Meseia Iesu mae’r Ysbryd Glân, sy’n rhoi bywyd, wedi fy ngollwng i’n rhydd o afael y pechod sy’n arwain i farwolaeth. Doedd y Gyfraith Iddewig ddim yn gallu gwneud hynny, am fod y natur ddynol mor wan. Ond dyma Duw yn anfon ei Fab ei hun i fod yn berson dynol yr un fath â ni bechaduriaid, er mwyn iddo orchfygu’r pechod oedd ar waith yn y natur ddynol drwy roi ei fywyd yn aberth dros bechod. Gwnaeth hyn er mwyn i ni wneud beth mae Cyfraith Duw yn ei ofyn. Dŷn ni bellach yn byw fel mae’r Ysbryd Glân eisiau, dim fel mae ein natur bechadurus eisiau.
Darllen Rhufeiniaid 8
Gwranda ar Rhufeiniaid 8
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Rhufeiniaid 8:2-4
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos