Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 8:1-17

Rhufeiniaid 8:1-17 BNET

Ond dydy’r rhai sy’n perthyn i’r Meseia Iesu ddim yn mynd i gael eu cosbi! O achos beth wnaeth y Meseia Iesu mae’r Ysbryd Glân, sy’n rhoi bywyd, wedi fy ngollwng i’n rhydd o afael y pechod sy’n arwain i farwolaeth. Doedd y Gyfraith Iddewig ddim yn gallu gwneud hynny, am fod y natur ddynol mor wan. Ond dyma Duw yn anfon ei Fab ei hun i fod yn berson dynol yr un fath â ni bechaduriaid, er mwyn iddo orchfygu’r pechod oedd ar waith yn y natur ddynol drwy roi ei fywyd yn aberth dros bechod. Gwnaeth hyn er mwyn i ni wneud beth mae Cyfraith Duw yn ei ofyn. Dŷn ni bellach yn byw fel mae’r Ysbryd Glân eisiau, dim fel mae ein natur bechadurus eisiau. Mae’r rhai sy’n cael eu rheoli gan y natur bechadurus yn byw i’r hunan, ond mae’r rhai sydd dan reolaeth yr Ysbryd Glân yn byw i wneud beth mae’r Ysbryd eisiau. Os mai’r hunan sy’n eich rheoli chi, byddwch chi’n marw. Ond os ydy’r Ysbryd Glân yn eich rheoli chi, mae gynnoch chi fywyd a heddwch perffaith gyda Duw. Mae’r natur bechadurus yn ymladd yn erbyn Duw. Does ganddi ddim eisiau gwneud beth mae Cyfraith Duw’n ei ofyn – yn wir, dydy hi ddim yn gallu! A dydy’r rhai sy’n cael eu rheoli gan y natur bechadurus ddim yn gallu plesio Duw. Ond dim yr hunan sy’n eich rheoli chi. Mae Ysbryd Duw wedi dod i fyw ynoch chi, felly yr Ysbryd sy’n eich rheoli chi. Os ydy Ysbryd y Meseia ddim wedi cael gafael ynoch chi, dych chi ddim yn bobl y Meseia o gwbl. Ond os ydy’r Meseia ynoch chi, er bod y corff yn mynd i farw o achos pechod, mae’r Ysbryd Glân yn rhoi bywyd tragwyddol i chi, am fod gynnoch chi berthynas iawn gyda Duw. Ac os ydy Ysbryd yr Un gododd Iesu yn ôl yn fyw wedi dod i fyw ynoch chi, bydd e’n rhoi bywyd newydd i’ch cyrff marwol chi hefyd. Dyna mae’r Ysbryd Glân sydd wedi dod i fyw ynoch chi yn ei wneud. Felly, frodyr a chwiorydd, does dim rhaid i ni bellach fyw fel mae’r natur bechadurus eisiau. Mae gwneud hynny yn siŵr o arwain i farwolaeth. Ond, gyda nerth yr Ysbryd Glân, os gwnawn ni wrthod gwneud beth mae’r hunan eisiau, byddwn yn cael bywyd. Mae pawb sydd a’u bywydau’n cael eu rheoli gan Ysbryd Duw yn cael bod yn blant i Dduw. Dydy’r Ysbryd Glân dŷn ni wedi’i dderbyn ddim yn ein gwneud yn gaethweision ofnus unwaith eto! Mae’n ein mabwysiadu ni yn blant i Dduw, a gallwn weiddi arno’n llawen, “ Abba ! Dad!” Ydy, mae’r Ysbryd yn dangos yn glir i ni ein bod ni’n blant i Dduw. Ac os ydyn ni’n blant iddo, byddwn ninnau hefyd yn derbyn yr holl bethau da mae’n ei roi i’w Fab, y Meseia. Ond cofiwch wedyn, os ydyn ni’n cael rhannu yn ei ysblander mae’n rhaid i ni fod yn barod i ddioddef gydag e hefyd.