Dŷn ni’n gwybod bod Cyfraith Duw yn dda ac yn ysbrydol. Fi ydy’r drwg! Fi sy’n gnawdol. Fi sydd wedi fy ngwerthu’n rhwym i bechod. Dw i ddim yn deall fy hun o gwbl. Yn lle gwneud beth dw i eisiau ei wneud, dw i’n cael fy hun yn gwneud beth dw i’n ei gasáu! Ac os dw i’n gwybod mod i’n gwneud y peth anghywir, dw i’n cytuno fod Cyfraith Duw yn dda. Mae fel taswn i fy hun wedi colli rheolaeth, a’r pechod sydd y tu mewn i mi wedi cymryd drosodd. Dw i’n gwybod yn iawn pa mor ddrwg ydw i y tu mewn! Yr hunan ydy popeth! Dw i eisiau byw yn dda, ond dw i’n methu! Yn lle gwneud y pethau da dw i eisiau eu gwneud, dw i’n dal ati i wneud y pethau drwg dw i ddim eisiau eu gwneud. Ac os dw i’n gwneud beth dw i ddim eisiau ei wneud, dim fi sy’n rheoli bellach – y pechod y tu mewn i mi sydd wedi cymryd drosodd. Felly, er fy mod i eisiau gwneud beth sy’n iawn, mae’r drwg yno yn cynnig ei hun i mi. Yn y bôn dw i’n cytuno gyda Cyfraith Duw. Ond mae rhyw ‘gyfraith’ arall ar waith yn fy mywyd i – mae’n brwydro yn erbyn y Gyfraith dw i’n cytuno â hi, ac yn fy ngwneud i’n garcharor i bechod. Mae wedi cymryd drosodd yn llwyr! Dw i mewn picil go iawn! Oes yna ffordd allan? Pwy sy’n mynd i’m hachub i o ganlyniadau’r bywyd yma o bechu?
Darllen Rhufeiniaid 7
Gwranda ar Rhufeiniaid 7
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Rhufeiniaid 7:14-24
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos