Ydych chi ddim wedi deall? Pan gawson ni’n bedyddio i ddangos ein bod yn perthyn i’r Meseia Iesu, roedden ni’n uniaethu â’i farwolaeth e. Wrth gael ein bedyddio, cawson ni’n claddu gydag e, am fod y person oedden ni o’r blaen wedi marw. Ac yn union fel y cafodd y Meseia ei godi yn ôl yn fyw drwy nerth bendigedig y Tad, dŷn ninnau hefyd bellach yn byw bywydau newydd. Os ydyn ni wedi’n huno â’i farwolaeth, dŷn ni’n siŵr o gael ein huno hefyd â’i atgyfodiad. Mae beth roedden ni’n arfer bod wedi cael ei ladd ar y groes gyda’r Meseia, er mwyn i’r awydd cryf sydd ynon ni i bechu ollwng gafael ynon ni, ac i ni beidio ei wasanaethu ddim mwy. Os ydy rhywun wedi marw, mae’n rhydd o afael pechod. Ond os ydyn ni wedi marw gyda’r Meseia dŷn ni’n credu y cawn ni fyw gydag e hefyd! Fydd y Meseia ddim yn marw byth eto, am ei fod wedi’i godi yn ôl yn fyw – does gan farwolaeth ddim gafael arno bellach. Wrth farw, buodd e farw un waith ac am byth i bechod, ond bellach mae e’n byw i glodfori Duw! Felly, dylech chithau hefyd ystyried eich hunain yn farw i bechod, a byw mewn perthynas â’r Meseia Iesu er mwyn clodfori Duw.
Darllen Rhufeiniaid 6
Gwranda ar Rhufeiniaid 6
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Rhufeiniaid 6:3-11
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos