Felly, beth mae hyn i gyd yn ei olygu? Ei bod hi’n iawn i ni ddal ati i bechu er mwyn i Dduw ddangos mwy a mwy o haelioni? Na, wrth gwrs ddim! Dŷn ni wedi marw i’r hen fywyd o bechod, felly sut allwn ni ddal ati i bechu o hyd? Ydych chi ddim wedi deall? Pan gawson ni’n bedyddio i ddangos ein bod yn perthyn i’r Meseia Iesu, roedden ni’n uniaethu â’i farwolaeth e. Wrth gael ein bedyddio, cawson ni’n claddu gydag e, am fod y person oedden ni o’r blaen wedi marw. Ac yn union fel y cafodd y Meseia ei godi yn ôl yn fyw drwy nerth bendigedig y Tad, dŷn ninnau hefyd bellach yn byw bywydau newydd. Os ydyn ni wedi’n huno â’i farwolaeth, dŷn ni’n siŵr o gael ein huno hefyd â’i atgyfodiad. Mae beth roedden ni’n arfer bod wedi cael ei ladd ar y groes gyda’r Meseia, er mwyn i’r awydd cryf sydd ynon ni i bechu ollwng gafael ynon ni, ac i ni beidio ei wasanaethu ddim mwy. Os ydy rhywun wedi marw, mae’n rhydd o afael pechod.
Darllen Rhufeiniaid 6
Gwranda ar Rhufeiniaid 6
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Rhufeiniaid 6:1-7
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos