Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 5:6-21

Rhufeiniaid 5:6-21 BNET

Pan oedd pethau’n gwbl anobeithiol arnon ni, dyma’r Meseia yn dod ar yr adeg iawn i farw droson ni rai drwg! Prin bod unrhyw un yn fodlon marw dros berson hunangyfiawn. Falle y byddai rhywun yn fodlon marw dros berson da. Ond mae Duw yn dangos i ni gymaint mae’n ein caru ni: mae’r Meseia wedi marw droson ni pan oedden ni’n dal i bechu yn ei erbyn! Dŷn ni bellach wedi cael ein derbyn i berthynas iawn gyda Duw am fod gwaed y Meseia wedi’i dywallt. Does dim amheuaeth, felly, y byddwn ni’n cael ein harbed ganddo rhag cael ein cosbi! Os mai marwolaeth Mab Duw wnaeth ein perthynas ni â Duw yn iawn (a hynny pan oedden ni’n dal yn elynion iddo!), does dim amheuaeth o gwbl, gan ein bod ni bellach yn y berthynas yma, y byddwn ni’n cael ein hachub am ei fod yn fyw! Dŷn ni’n brolio am Dduw o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia! Fe sydd wedi gwneud y berthynas iawn yma’n bosib. Daeth pechod i’r byd drwy un dyn, a marwolaeth o ganlyniad i hynny. Ac mae pawb yn marw, am fod pawb wedi pechu. Oedd, roedd pechod yn y byd cyn i Dduw roi’r Gyfraith i Moses. Er bod pechod ddim yn cael ei gyfri am fod y Gyfraith ddim yno i’w thorri, roedd pechod yno, ac roedd yn gadael ei ôl. Roedd pobl yn marw o gyfnod Adda hyd amser Moses. Roedden nhw’n marw er eu bod nhw ddim wedi pechu yn union yn yr un ffordd ag Adda drwy fod yn anufudd i orchymyn penodol. Mewn rhyw ffordd mae Adda yn fodel o’r Meseia oedd yn mynd i ddod. Ac eto tasen ni’n cymharu’r rhodd o faddeuant gyda throsedd Adda, maen nhw’n wahanol iawn i’w gilydd! Marwolaeth tyrfa enfawr o bobl oedd canlyniad trosedd un (sef Adda). Ond tywallt maddeuant ar dyrfa enfawr o bobl oedd canlyniad beth wnaeth y llall (sef Iesu y Meseia) – ie, maddeuant yn rhodd gan Dduw! Ac mae canlyniad y rhodd mor wahanol i ganlyniad y pechod. Barn a chosb sy’n dilyn yr un trosedd hwnnw, ond mae’r rhodd o faddeuant yn gwneud ein perthynas ni â Duw yn iawn. Dŷn ni’n cael ein gollwng yn rhydd er gwaetha llu o bechodau. Canlyniad trosedd un dyn (sef Adda) oedd fod pawb yn marw, ond o achos beth wnaeth y dyn arall (Iesu y Meseia), bydd y rhai sy’n derbyn rhodd Duw o berthynas iawn gydag e yn cael bywyd tragwyddol. Felly, canlyniad Adda’n troseddu oedd condemnio’r ddynoliaeth, ond canlyniad Iesu yn gwneud y peth iawn oedd bod perthynas iawn gyda Duw, a bywyd, yn cael ei gynnig i’r ddynoliaeth. Cafodd tyrfa enfawr o bobl eu gwneud yn bechaduriaid am fod Adda wedi bod yn anufudd. A’r un modd daeth tyrfa enfawr o bobl i berthynas iawn gyda Duw am fod Iesu wedi bod yn ufudd. Pwrpas rhoi’r Gyfraith i Moses oedd i helpu pobl i weld gymaint oedden nhw’n troseddu. Ond tra oedd pobl yn pechu fwy a mwy, dyma Duw yn tywallt ei haelioni y tu hwnt i bob rheswm. Yn union fel roedd pechod wedi cael gafael mewn pobl a hwythau wedyn yn marw, mae haelioni Duw yn gafael mewn pobl ac yn dod â nhw i berthynas iawn gydag e. Maen nhw’n cael bywyd tragwyddol – o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia.