Ond y drwg ydy, er bod pobl yn gwybod fod Duw’n bodoli, maen nhw wedi gwrthod ei anrhydeddu a diolch iddo. Yn lle hynny maen nhw wedi hel pob math o syniadau dwl. Maen nhw wir yn y tywyllwch. Ydyn, maen nhw’n meddwl eu bod nhw mor glyfar, ond ffyliaid ydyn nhw go iawn! Yn lle addoli’r Duw bendigedig sy’n byw am byth bythoedd, maen nhw wedi dewis plygu o flaen delwau wedi’u cerfio i edrych fel pethau fydd yn marw – pobl, adar, anifeiliaid ac ymlusgiaid.
Felly mae Duw wedi gadael iddyn nhw fynd eu ffordd eu hunain. Maen nhw wedi dewis gwneud pob math o bethau mochaidd, ac amharchu eu cyrff gyda’i gilydd. Maen nhw wedi credu celwydd yn lle credu beth sy’n wir am Dduw! Maen nhw’n addoli a gwasanaethu pethau sydd wedi cael eu creu yn lle addoli’r Crëwr ei hun! – yr Un sy’n haeddu ei foli am byth! Amen!
Ydy, mae Duw wedi gadael i bobl ddilyn eu chwantau gwarthus. Merched yn dewis gwneud beth sy’n annaturiol yn lle cael perthynas rywiol gyda dyn; a dynion hefyd, yn dewis troi cefn ar y berthynas naturiol gyda merch ac yn llosgi o chwant rhywiol am ei gilydd! Maen nhw’n gwneud pethau cwbl anweddus, ac yn wynebu’r gosb maen nhw’n ei haeddu.
Am fod pobl wedi gwrthod credu beth sy’n wir am Dduw, mae e wedi gadael iddyn nhw ddilyn eu syniadau pwdr. Maen nhw’n gwneud popeth o’i le – ymddwyn yn anghyfiawn, gwneud pethau drwg, bod yn farus a hunanol, bod yn faleisus, cenfigennu, llofruddio, cecru, twyllo, bod yn sbeitlyd a hel straeon am bobl eraill. Maen nhw’n enllibio pobl, yn casáu Duw, yn haerllug, yn snobyddlyd a hunanbwysig, ac yn meddwl o hyd am ryw ffordd newydd i bechu. Does ganddyn nhw ddim parch at eu rhieni, dydyn nhw’n deall dim, maen nhw’n torri eu gair, yn ddiserch ac yn dangos dim trugaredd. Maen nhw’n gwybod yn iawn fod Duw wedi dweud fod pawb sy’n gwneud y pethau yma yn haeddu marw. Ond maen nhw’n dal ati er hynny, ac yn waeth fyth yn annog pobl eraill i wneud yr un fath â nhw!