Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Datguddiad 21:9-27

Datguddiad 21:9-27 BNET

Yna dyma un o’r saith angel oedd yn dal y powlenni llawn o’r saith pla olaf yn dod ata i a dweud, “Tyrd, a gwna i ddangos y briodferch i ti, sef gwraig yr Oen.” Dyma’r angel yn fy nghodi dan ddylanwad yr Ysbryd a mynd â fi i fynydd mawr uchel. Dangosodd y ddinas sanctaidd i mi, Jerwsalem, yn dod i lawr oddi wrth Dduw yn y nefoedd. Roedd ysblander Duw ei hun yn tywynnu ohoni; roedd hi’n disgleirio fel gem anhygoel o werthfawr – fel iasbis, yn glir fel grisial! Roedd anferth o wal uchel o’i chwmpas gyda deuddeg giât ynddi, a deuddeg angel yn gwarchod y giatiau. Roedd enwau deuddeg llwyth Israel wedi’u hysgrifennu ar y giatiau. Roedd tair giât ar yr ochr ddwyreiniol, tair i’r gogledd, tair i’r de a thair i’r gorllewin. Roedd gan wal y ddinas ddeuddeg carreg sylfaen, ac roedd enwau deuddeg cynrychiolydd yr Oen wedi’u hysgrifennu ar y rheiny. Roedd ffon fesur aur gan yr angel oedd yn siarad â mi, er mwyn iddo fesur y ddinas, ei giatiau a’i waliau. Roedd y ddinas yn berffaith sgwâr. Pan fesurodd yr angel y ddinas gyda’r ffon fesur cafodd ei bod hi’n 2,250 cilomedr o hyd, ac mai dyna hefyd oedd ei lled a’i huchder. Pan fesurodd yr angel y wal, cafodd ei bod yn chwe deg pum metr o drwch – yn ôl y mesur cyffredin. Roedd y wal wedi’i hadeiladu o faen iasbis, a’r ddinas wedi’i gwneud o aur pur, mor bur â gwydr. Roedd sylfeini waliau’r ddinas wedi’u haddurno gyda phob math o emau gwerthfawr. Maen iasbis oedd y sylfaen cyntaf, saffir oedd yr ail, y trydydd yn galcedon, a’r pedwerydd yn emrallt; onics oedd y pumed, carnelian y chweched, saffir melyn y seithfed, beryl yr wythfed, topas y nawfed, a crysopras y degfed; maen iasinth oedd yr unfed ar ddeg ac amethyst oedd y deuddegfed. Roedd giatiau’r ddinas wedi’u gwneud o berlau, pob giât unigol wedi’i gwneud o un perl mawr. Ac roedd heol fawr y ddinas yn aur oedd mor bur â gwydr clir! Doedd dim teml i’w gweld yn y ddinas, am fod yr Arglwydd Dduw Hollalluog a’r Oen yno, fel teml. Does dim angen golau haul na lleuad yn y ddinas chwaith, am fod ysblander Duw ei hun yn ei goleuo hi, a’r Oen fel lamp yn ei goleuo hi. Bydd y cenhedloedd yn byw yn ei golau, a bydd brenhinoedd y ddaear yn dod â’u holl gyfoeth i mewn iddi hi. Fydd ddim rhaid i’w giatiau gael eu cau o gwbl, achos fydd dim nos yno. Bydd holl ysblander a chyfoeth y cenhedloedd yn cael eu dwyn i mewn iddi. Ond fydd dim byd aflan yn mynd i mewn iddi, nac unrhyw un sy’n gwneud pethau ffiaidd neu’n twyllo chwaith; dim ond y bobl hynny sydd â’u henwau wedi’u hysgrifennu yn Llyfr Bywyd yr Oen.