Yna gwelais nefoedd newydd a daear newydd. Roedd y ddaear a’r awyr gyntaf wedi diflannu. Doedd y môr ddim yn bodoli ddim mwy. Dyma fi’n gweld y ddinas sanctaidd, y Jerwsalem newydd, yn dod i lawr oddi wrth Dduw yn y nefoedd. Roedd yn edrych fel merch ifanc wedi’i gwisgo’n hardd ar gyfer ei phriodas. Wedyn clywais lais o’r orsedd yn cyhoeddi’n glir, “Bellach mae pabell Duw yng nghanol y bobloedd. Bydd yn byw yn eu canol nhw, a byddan nhw’n bobl iddo. Bydd Duw ei hun gyda nhw, a fe fydd eu Duw nhw. Bydd yn sychu pob deigryn o’u llygaid nhw. Fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen, dim galaru, dim wylo, dim poen. Mae pethau fel roedden nhw wedi mynd.” Dyma’r Un oedd yn eistedd ar yr orsedd yn dweud, “Edrychwch! Dw i’n gwneud popeth yn newydd!” Meddai wedyn, “Ysgrifenna hynny i lawr. Mae beth dw i’n ei ddweud yn gwbl ddibynadwy ac yn wir.”
Darllen Datguddiad 21
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Datguddiad 21:1-5
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos