Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 94

94
Duw, y Barnwr
1O Dduw sy’n dial pob cam. O ARGLWYDD!
O Dduw sy’n dial pob cam, disgleiria!
2Cod ar dy draed, Farnwr y ddaear,
a rhoi beth maen nhw’n ei haeddu i’r rhai balch!
3Am faint mwy mae’r rhai drwg, O ARGLWYDD
am faint mwy mae’r rhai drwg i gael dathlu?
4Maen nhw’n chwydu eu geiriau balch
wrth frolio’u hunain.
5Maen nhw’n sathru dy bobl dan draed, O ARGLWYDD,
ac yn cam-drin dy etifeddiaeth.
6Maen nhw’n lladd y gweddwon a’r mewnfudwyr,
ac yn llofruddio’r plant amddifad.
7Maen nhw’n meddwl, “Dydy’r ARGLWYDD ddim yn gweld,
dydy Duw Jacob yn cymryd dim sylw.”
8Chi bobl dwp, mae’n bryd i chi ddeall!
Chi ffyliaid, pryd dych chi’n mynd i gallio?
9Ydy’r un roddodd siâp i’r glust ddim yn clywed?
Ydy’r un wnaeth greu y llygad ddim yn gweld?
10Ydy’r un sy’n disgyblu’r cenhedloedd ddim yn cosbi? –
Fe ydy’r un sy’n dysgu gwersi i’r ddynoliaeth!
11Mae’r ARGLWYDD yn gwybod fod cynlluniau dynol
yn wastraff amser, fel tarth yn diflannu!
12Mae’r un sy’n cael ei ddisgyblu gen ti wedi’i fendithio’n fawr, ARGLWYDD;
yr un rwyt ti’n dysgu dy gyfraith iddo.
13Mae’n dawel ei feddwl pan mae pethau’n anodd.
Mae’n gwybod y bydd y rhai drwg yn syrthio i dwll.
14Fydd yr ARGLWYDD ddim yn siomi ei bobl.
Fydd e ddim yn troi cefn ar ei etifeddiaeth.
15Cyfiawnder fydd yn cario’r dydd,
a’r rhai sy’n byw’n gywir yn ei ddilyn.
16Oes rhywun am ochri gyda fi yn erbyn y rhai drwg?
Oes rhywun am sefyll hefo fi yn erbyn pobl ddrwg?
17Na, byddai ar ben arna i
oni bai fod yr ARGLWYDD wedi fy helpu!
18Pan oeddwn i’n dweud, “Dw i’n llithro! Mae ar ben arna i!”
roedd dy ffyddlondeb di, O ARGLWYDD, yn fy nghynnal.
19Pan oeddwn i’n poeni am bob math o bethau,
roedd dy gefnogaeth di yn fy ngwneud i’n llawen.
20Wyt ti’n gallu partneru gyda llywodraeth anghyfiawn
sy’n achosi dioddefaint drwy ei deddfau?
21Maen nhw’n casglu at ei gilydd yn erbyn y cyfiawn,
ac yn condemnio pobl ddiniwed i farwolaeth.
22Ond mae’r ARGLWYDD yn gaer ddiogel i mi;
mae fy Nuw yn graig lle dw i’n hollol saff.
23Bydd e’n talu’n ôl iddyn nhw am eu drygioni!
Bydd e’n defnyddio’u drygioni eu hunain i’w dinistrio!
Bydd yr ARGLWYDD ein Duw yn eu dinistrio nhw!

Dewis Presennol:

Salm 94: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda