O Dduw, ti ydy fy Nuw i! Dw i wir yn dy geisio di. Mae fy enaid yn sychedu amdanat. Mae fy nghorff yn dyheu amdanat, fel tir sych ac anial sydd heb ddŵr. Ydw, dw i wedi dy weld di yn y cysegr, a gweld dy rym a dy ysblander! Profi dy ffyddlondeb di ydy’r peth gorau am fywyd, ac mae fy ngwefusau’n dy foli di! Dw i’n mynd i dy foli fel yma am weddill fy mywyd; codi fy nwylo mewn gweddi, a galw ar dy enw. Dw i wedi fy modloni’n llwyr, fel ar ôl bwyta gwledd! Dw i’n canu mawl i ti â gwefusau llawen.
Darllen Salm 63
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Salm 63:1-5
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos