Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 39

39
Mae bywyd mor fyr
I Iedwthwn,#39:0 Iedwthwn Un o gerddorion pwysica’r brenin Dafydd – gw. 1 Cronicl 16:41. yr arweinydd cerdd. Salm Dafydd.
1Dyma fi’n penderfynu, “Dw i’n mynd i wylio fy hun
a pheidio dweud dim byd i bechu.
Dw i’n mynd i gau fy ngheg
tra dw i yng nghwmni pobl ddrwg.”
2Rôn i’n hollol dawel,
yn brathu fy nhafod a dweud dim.
Ond roeddwn i’n troi’n fwy a mwy rhwystredig.
3Roedd y tensiwn yno i yn mynd o ddrwg i waeth.
Rôn i’n methu ymatal.
A dyma fi’n dweud:
4“O ARGLWYDD, beth ydy’r pwynt,
faint o amser sydd gen i ar ôl?
Bydda i wedi mynd mewn dim o amser!
5Ti wedi gwneud bywyd mor fyr.
Dydy oes rhywun yn ddim byd yn dy olwg di.
Mae bywyd y cryfaf yn mynd heibio fel tarth.”
Saib
6Mae pobl yn pasio drwy fywyd fel cysgodion.
Maen nhw’n casglu cyfoeth iddyn nhw’u hunain,
heb wybod pwy fydd yn ei gymryd yn y diwedd.
7Beth alla i bwyso arno, felly, O ARGLWYDD?
Ti dy hun ydy fy unig obaith i!
8Achub fi rhag canlyniadau fy ngwrthryfel.
Paid gadael i ffyliaid wneud hwyl am fy mhen.
9Dw i’n fud, ac yn methu dweud dim
o achos beth rwyt ti wedi’i wneud.
10Plîs, paid dal ati i’m taro!
Dw i wedi cael fy nghuro i farwolaeth, bron!
11Ti’n disgyblu pobl mor llym am eu pechodau,
er mwyn i’r ysfa i bechu ddiflannu
fel gwyfyn yn colli ei nerth.
Ydy, mae bywyd pawb fel tarth.
Saib
12Clyw fy ngweddi, O ARGLWYDD.
Gwranda arna i’n gweiddi am help;
paid diystyru fy nagrau!
Dw i fel ffoadur, yn dibynnu arnat ti.
Fel fy hynafiaid dw i angen dy help.
13Stopia syllu mor ddig arna i.
Gad i mi fod yn hapus unwaith eto,
cyn i mi farw a pheidio â bod.

Dewis Presennol:

Salm 39: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda