O ARGLWYDD, mae gen i gymaint o elynion! Mae cymaint o bobl yn ymosod arna i. Mae cymaint ohonyn nhw’n dweud, “Fydd Duw ddim yn dod i’w achub e!” Saib Ond ARGLWYDD, rwyt ti fel tarian o’m cwmpas. Ti ydy’r Un dw i’n brolio amdano! Ti ydy’r Un sy’n rhoi hyder i mi. Dim ond i mi weiddi’n uchel ar yr ARGLWYDD, bydd e’n fy ateb i o’i fynydd cysegredig. Saib Dw i wedi gallu gorwedd i lawr, cysgu a deffro, am fod yr ARGLWYDD yn gofalu amdana i. Does gen i ddim ofn y miloedd o filwyr sy’n ymosod arna i o bob cyfeiriad. Cod, ARGLWYDD! Achub fi, O fy Nuw. Rho glatsien iawn i’m gelynion i gyd. Torra ddannedd y rhai drwg. “Yr ARGLWYDD sy’n achub!” Rwyt ti’n bendithio dy bobl! Saib
Darllen Salm 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Salm 3:1-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos