Achub fy ngham, O ARGLWYDD, dw i wedi bod yn onest. Dw i wedi dy drystio di, ARGLWYDD, bob amser. Archwilia fi, ARGLWYDD; gosod fi ar brawf! Treiddia i’m meddwl a’m cydwybod. Dw i’n gwybod mor ffyddlon wyt ti – a dyna sydd yn fy ysgogi i fynd ymlaen. Dw i ddim yn derbyn cyngor gan bobl sy’n twyllo, nac yn cymysgu gyda rhai sy’n anonest. Dw i’n casáu cwmni dynion drwg, ac yn gwrthod cyngor pobl felly. Dw i’n golchi fy nwylo’n lân, ac am gerdded o gwmpas dy allor, O ARGLWYDD. Dw i eisiau diolch i ti, a dweud am y pethau rhyfeddol wnest ti. O ARGLWYDD, dw i’n caru’r deml lle rwyt ti’n byw; y fan lle mae dy ysblander i’w weld. Paid ysgubo fi i ffwrdd gyda phechaduriaid, na’m lladd gyda’r bobl dreisgar sydd bob amser yn cynllwynio rhyw ddrwg, neu’n barod i gynnig breib. Dw i wedi bod yn onest. Gollwng fi’n rhydd! Bydd yn garedig ata i! Dw i’n gwybod fy mod i’n saff. Bydda i’n addoli’r ARGLWYDD eto gyda’i bobl.
Darllen Salm 26
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Salm 26:1-12
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos