Fy Nuw, fy Nuw, pam wyt ti wedi troi dy gefn arna i? Dw i’n griddfan mewn poen, pam wyt ti ddim yn fy achub i? Fy Nuw, dw i’n galw arnat ti drwy’r dydd, ond ti ddim yn ateb. Dw i’n dal ati drwy’r nos heb orffwys o gwbl. Ti ydy’r Duw Sanctaidd! Rwyt ti’n eistedd ar dy orsedd, ac yn derbyn mawl pobl Israel. Ti oedd ein hynafiaid ni’n ei drystio. Roedden nhw’n dy drystio di a dyma ti’n eu hachub nhw. Dyma nhw’n gweiddi arnat ti a llwyddo i ddianc; roedden nhw wedi dy drystio di, a chawson nhw mo’u siomi.
Darllen Salm 22
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Salm 22:1-5
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos