Mae dysgeidiaeth yr ARGLWYDD yn berffaith – mae’n rhoi bywyd newydd i mi! Mae rheolau yr ARGLWYDD yn glir ac yn gwneud y person mwyaf cyffredin yn ddoeth. Mae cyngor yr ARGLWYDD yn dangos beth sy’n iawn ac yn gwneud y galon yn llawen. Mae arweiniad yr ARGLWYDD yn bur ac yn ein goleuo ni. Mae’r gorchymyn i barchu’r ARGLWYDD yn glir ac yn aros bob amser. Mae dyfarniad yr ARGLWYDD yn gywir – mae e’n gwbl deg bob amser. Mae’r pethau yma’n fwy gwerthfawr nag aur – ie, llwythi o aur coeth! Maen nhw’n felysach na’r mêl sy’n diferu o’r diliau. Ydyn, maen nhw’n rhoi goleuni i dy was; ac mae gwobr fawr i’r rhai sy’n ufuddhau. Ond pwy sy’n gweld ei feiau ei hun? O, maddau i mi pan dw i’n pechu heb wybod, a chadw fi rhag pechu’n fwriadol. Paid gadael i bechod reoli fy mywyd i. Yna byddaf yn ddi-fai, a dieuog o droseddu yn dy erbyn. Gad i’r cwbl dw i’n ei ddweud a’i feddwl dy blesio di, O ARGLWYDD, fy nghraig a’m hachubwr.
Darllen Salm 19
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Salm 19:7-14
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos