Salm 102
102
Gweddi person ifanc sydd mewn trafferthion
Gweddi rhywun sy’n diodde, ac yn tywallt ei galon o flaen yr ARGLWYDD.
1O ARGLWYDD, clyw fy ngweddi;
gwrando arna i’n gweiddi am help.
2Paid troi cefn arna i
pan dw i mewn trafferthion.
Gwranda arna i!
Rho ateb buan i mi pan dw i’n galw.
3Mae fy mywyd i’n diflannu fel mwg,
ac mae fy esgyrn yn llosgi fel marwor poeth.
4Dw i mor ddigalon, ac yn gwywo fel glaswellt.
Dw i ddim yn teimlo fel bwyta hyd yn oed.
5Dw i ddim yn stopio tuchan;
mae fy esgyrn i’w gweld drwy fy nghroen.
6Dw i fel jac-y-do yn yr anialwch;
fel tylluan yng nghanol adfeilion.
7Dw i’n methu cysgu.
Dw i fel aderyn unig ar ben tŷ.
8Mae fy ngelynion yn fy enllibio drwy’r dydd;
maen nhw’n fy rhegi ac yn gwneud sbort am fy mhen.
9Lludw ydy’r unig fwyd sydd gen i,
ac mae fy niod wedi’i gymysgu â dagrau,
10am dy fod ti’n ddig ac wedi gwylltio hefo fi.
Rwyt ti wedi gafael yno i, a’m taflu i ffwrdd fel baw!
11Mae fy mywyd fel cysgod ar ddiwedd y dydd;
dw i’n gwywo fel glaswellt.
12Ond byddi di, ARGLWYDD, ar dy orsedd am byth!
Mae pobl yn galw ar dy enw ar hyd y cenedlaethau!
13Byddi di’n codi ac yn dangos trugaredd at Seion eto.
Mae’n bryd i ti fod yn garedig ati.
Mae’r amser i wneud hynny wedi dod.
14Mae dy weision yn caru ei meini,
ac yn teimlo i’r byw wrth weld y rwbel!
15Wedyn bydd y cenhedloedd yn parchu enw’r ARGLWYDD.
Bydd brenhinoedd y byd i gyd yn ofni ei ysblander.
16Bydd yr ARGLWYDD yn ailadeiladu Seion!
Bydd yn cael ei weld yn ei holl ysblander.
17Achos mae e’n gwrando ar weddi y rhai sydd mewn angen;
dydy e ddim yn diystyru eu cri nhw.
18Dylai hyn gael ei ysgrifennu i lawr ar gyfer y dyfodol,
er mwyn i bobl sydd heb gael eu geni eto foli’r ARGLWYDD.
19Bydd yr ARGLWYDD yn edrych i lawr o’i gysegr uchel iawn,
Bydd yn edrych i lawr ar y ddaear o’r nefoedd uchod,
20ac yn gwrando ar riddfan y rhai oedd yn gaeth.
Bydd yn rhyddhau’r rhai oedd wedi’u condemnio i farwolaeth.
21Wedyn bydd enw’r ARGLWYDD yn cael ei gyhoeddi o Seion,
a bydd e’n cael ei addoli yn Jerwsalem.
22Bydd pobl o’r gwledydd i gyd
yn dod at ei gilydd i addoli’r ARGLWYDD.
23Mae wedi ysigo fy nerth i ar ganol y daith,
Mae wedi penderfynu rhoi bywyd byr i mi.
24“O Dduw, paid cymryd fi
hanner ffordd drwy fy mywyd!
Rwyt ti’n aros ar hyd y cenedlaethau.
25Ti osododd y ddaear yn ei lle ers talwm;
a gwaith dy ddwylo di ydy’r sêr a’r planedau.
26Byddan nhw’n darfod, ond rwyt ti’n aros.
Byddan nhw’n mynd yn hen fel dillad wedi’u gwisgo.
Byddi di’n eu tynnu fel dilledyn, a byddan nhw wedi mynd.
27Ond rwyt ti yn aros am byth –
dwyt ti byth yn mynd yn hen!
28Bydd plant dy weision yn dal i gael byw yma,
a bydd eu plant nhw yn saff yn dy bresenoldeb di.”
Dewis Presennol:
Salm 102: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023