Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 2:1-22

Diarhebion 2:1-22 BNET

Fy mab, os byddi di’n derbyn beth dw i’n ddweud, ac yn trysori’r hyn dw i’n ei orchymyn; os gwnei di wrando’n astud ar ddoethineb, a cheisio deall yn iawn; os byddi di’n gofyn am gyngor doeth, ac yn awyddus i ddeall yn iawn; os byddi’n ceisio doethineb fel arian ac yn chwilio amdani fel am drysor wedi’i guddio, yna byddi di’n deall sut i barchu’r ARGLWYDD a byddi’n dod i wybod am Dduw. Achos yr ARGLWYDD sy’n rhoi doethineb; beth mae e’n ddweud sy’n rhoi gwybodaeth a deall. Mae’n rhoi llwyddiant i’r un sy’n gwneud beth sy’n iawn – ac mae fel tarian i amddiffyn y sawl sy’n byw yn onest. Mae’n gwneud yn siŵr fod cyfiawnder yn llwyddo, ac mae’n gwarchod y rhai sy’n ffyddlon iddo. Byddi’n deall beth sy’n iawn, yn gytbwys, ac yn deg – ie, popeth sy’n dda. Pan fydd doethineb yn rheoli dy ffordd o feddwl a gwybod beth sydd orau yn dy gofleidio di, bydd y ffordd wnei di ei dilyn yn saff, a bydd deall yn dy warchod. Bydd yn dy gadw di rhag dilyn y drwg, a rhag y bobl hynny sy’n twyllo o hyd – y rhai sydd wedi troi cefn ar ffyrdd gonest i ddilyn llwybrau tywyll. Maen nhw wrth eu boddau’n gwneud drwg ac yn mwynhau twyllo – pobl anonest ydyn nhw, ac maen nhw’n dilyn ffyrdd troellog. Bydd yn dy achub di rhag y wraig anfoesol, yr un lac ei moesau sy’n fflyrtian drwy’r adeg, yr un sydd wedi gadael ei gŵr, a diystyru’r addewidion wnaeth hi o flaen Duw. Mae ei thŷ hi yn llwybr llithrig i farwolaeth; mae ei dilyn hi yn arwain i fyd y meirw. Does neb sy’n mynd ati hi’n gallu troi yn ôl, a chael eu hunain ar lwybr bywyd unwaith eto. Dilyn di ffordd y rhai sy’n byw yn dda, cadw at lwybrau’r rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn. Y rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn fydd yn byw yn y tir, y rhai sy’n byw’n onest fydd yn cael aros yno. Bydd pobl ddrwg yn cael eu gyrru i ffwrdd, a’r rhai sy’n twyllo yn cael eu rhwygo o’r tir.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Diarhebion 2:1-22