Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Philipiaid 3:1-14

Philipiaid 3:1-14 BNET

Yn olaf, ffrindiau, byddwch yn llawen eich bod chi’n perthyn i’r Arglwydd! Dw i ddim yn blino dal ati i ysgrifennu’r un peth atoch chi. Dw i’n gwneud hynny i’ch amddiffyn chi. Gwyliwch y bobl hynny sydd ond eisiau gwneud drwg – y cŵn annifyr! Y rhai sy’n dweud fod rhaid torri’r cnawd â chyllell i gael eich achub! Ni, dim nhw, ydy’r rhai sydd wedi cael ein henwaedu go iawn – ni sy’n addoli Duw dan arweiniad yr Ysbryd Glân. Ni sy’n ymfalchïo yn beth wnaeth y Meseia Iesu, dim beth sydd wedi’i wneud i’r corff. Er, byddai gen i ddigon o sail i ymddiried yn hynny taswn i eisiau! Mae gen i fwy o le i ymddiried yn y math yna o beth na neb! Ces i fy enwaedu yn wythnos oed; dw i’n dod o dras Iddewig pur; dw i’n aelod o lwyth Benjamin; dw i’n siarad Hebraeg, fel mae fy rhieni; roeddwn i’n Pharisead oedd yn cadw Cyfraith Moses yn fanwl, fanwl; roeddwn i mor frwd nes i mi fynd ati i erlid yr eglwys Gristnogol. Yn ôl y safonau mae’r Gyfraith Iddewig yn ei hawlio, doedd neb yn gallu gweld bai arna i. Rôn i’n cyfri’r pethau yna i gyd mor bwysig ar un adeg, ond o achos beth wnaeth y Meseia, dŷn nhw’n dda i ddim bellach. Does dim byd mwy gwerthfawr bellach na’r fraint aruthrol o gael nabod fy Arglwydd, y Meseia Iesu! Dw i’n gallu byw heb y pethau eraill i gyd, cyn belled â mod i’n cael y Meseia. Sbwriel ydy’r cwbl o’i gymharu â chael perthyn i’r Meseia! Bellach, dw i ddim yn honni bod mewn perthynas iawn gyda Duw ar sail beth dw i wedi llwyddo i’w wneud (hynny ydy, ufuddhau i’r Gyfraith Iddewig). Yr unig beth sy’n cyfri bellach ydy fod Iesu y Meseia wedi bod yn ffyddlon – mae perthynas iawn gyda Duw yn rhodd i ni sy’n credu ynddo! Bellach yr unig beth dw i eisiau ydy dod i nabod y Meseia Iesu yn well, drwy brofi y pŵer hwnnw wnaeth ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw, a gallu dioddef fel y gwnaeth e – hyd yn oed os bydd hynny’n golygu marw drosto! Bydda innau wedyn yn cael rhannu’r profiad o godi yn ôl yn fyw ar ôl i mi farw. Dw i ddim yn honni fy mod i eisoes wedi cyrraedd, nac yn honni bod yn berffaith! Ond dw i’n dal ati er mwyn ennill y cwbl mae’r Meseia Iesu wedi’i fwriadu ar fy nghyfer i pan alwodd fi i’w ddilyn. Frodyr a chwiorydd annwyl, dw i ddim am eiliad yn meddwl mod i eisoes wedi cyrraedd! Y cwbl dw i’n ei ddweud ydy hyn: Dw i’n anghofio beth sydd tu cefn i mi ac yn canolbwyntio fy holl egni ar beth sydd o mlaen i. Fel taswn i mewn ras, dw i’n rhedeg at y llinell derfyn gyda’r bwriad o ennill! Dw i am ennill y wobr sydd gan Dduw ar ein cyfer ni. Ei alwad i’r nefoedd o achos beth wnaeth y Meseia Iesu.