Peidiwch bod am y gorau i fod yn bwysig, nac yn llawn ohonoch chi’ch hunain. Byddwch yn ostyngedig, a pheidio meddwl eich bod chi’n well na phobl eraill. Meddyliwch am bobl eraill gyntaf, yn lle dim ond meddwl amdanoch chi’ch hunain. Dylai eich agwedd chi fod yr un fath ag agwedd y Meseia Iesu: Roedd e’n rhannu’r un natur â Duw, heb angen ceisio gwneud ei hun yn gydradd â Duw; ond dewisodd roi ei hun yn llwyr i wasanaethu eraill, a gwneud ei hun yn gaethwas, a dod aton ni fel person dynol – roedd yn amlwg i bawb ei fod yn ddyn. Yna diraddio ei hun fwy fyth, a bod yn ufudd, hyd yn oed i farw – ie, drwy gael ei ddienyddio ar y groes.
Darllen Philipiaid 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Philipiaid 2:3-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos