Ond pa wahaniaeth? Beth bynnag ydy eu rhesymau nhw, y peth pwysig ydy bod y neges am y Meseia yn cael ei chyhoeddi! Mae hynny’n fy ngwneud i’n hapus. A hapus fydda i hefyd! Dych chi wrthi’n gweddïo, ac mae Ysbryd Iesu y Meseia yn fy nghynnal i. Felly dw i’n gwybod y bydda i’n cael fy rhyddhau yn y diwedd. Dw i’n edrych ymlaen at y dyfodol yn frwd, ac yn gobeithio na wna i ddim byd i siomi fy Arglwydd. Dw i eisiau bod yn ddewr bob amser, ac yn arbennig felly nawr, fel bod y Meseia yn cael ei fawrygu drwy bopeth dw i’n ei wneud – hyd yn oed petai rhaid i mi farw yma! I mi, y Meseia ydy holl ystyr a phwrpas byw, a dw i’n ennill hyd yn oed os bydda i’n cael fy lladd! Ond wedyn ar y llaw arall, os ca i fyw bydda i’n gallu dal ati i weithio dros y Meseia Iesu. Beth fyddwn i’n ei ddewis fy hun? Dw i ddim yn gwybod! Dw i’n cael fy nhynnu’r naill ffordd a’r llall: Dw i’n dyheu am gael gadael y byd yma i fod gyda’r Meseia am byth – dyna’n sicr ydy’r peth gorau allai ddigwydd i mi, o bell ffordd! Ond mae’n well o lawer i chi os ca i aros yn fyw. O feddwl am y peth, dw i’n reit siŵr y bydda i’n aros, i’ch helpu chi i dyfu a phrofi’r llawenydd sydd i’w gael o gredu yn y Meseia. Felly pan fydda i’n dod atoch chi eto, bydd gynnoch chi fwy fyth o reswm i frolio am y Meseia Iesu.
Darllen Philipiaid 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Philipiaid 1:18-26
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos