O’r diwrnod cyntaf y ces i fy ngwneud yn llywodraethwr Jwda – sef o’r ugeinfed flwyddyn i flwyddyn tri deg dau o deyrnasiad y Brenin Artaxerxes (un deg dwy o flynyddoedd i gyd) – wnes i a’m teulu ddim bwyta’r bwyd oedd yn cael ei roi i’r llywodraethwr. Roedd y llywodraethwyr o mlaen i wedi gosod beichiau trwm ar y bobl, a chymryd bwyd a gwin oddi arnyn nhw ar ben y dreth o 40 darn arian. Roedd eu staff yn galed ar y bobl hefyd. Ond wnes i ddim ymddwyn felly, am fy mod i’n parchu Duw. Es i ati fel pawb arall i weithio ar y wal, a wnes i ddim prynu tir i mi fy hun. Ac roedd fy staff i gyd yn gweithio yno hefyd. Roedd cant a hanner o bobl, swyddogion yr Iddewon, yn bwyta gyda mi’n rheolaidd, heb sôn am ymwelwyr oedd yn dod o wledydd eraill. Bob dydd roedd un ych, chwech o’r defaid gorau, a ffowls yn cael eu paratoi i mi, heb sôn am ddigonedd o win o bob math oedd yn cael ei roi i mi bob deg diwrnod. Er hynny, wnes i ddim hawlio’r bwyd oedd yn cael ei roi i’r llywodraethwr, am fod y baich yn drwm ar y bobl. O Dduw, cofia hyn o’m plaid i – popeth dw i wedi’i wneud i’r bobl yma.
Darllen Nehemeia 5
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Nehemeia 5:14-19
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos