Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Nehemeia 4:7-23

Nehemeia 4:7-23 BNET

Ond pan glywodd Sanbalat a Tobeia, yr Arabiaid, pobl Ammon a phobl Ashdod fod y gwaith o adfer waliau Jerwsalem yn dod yn ei flaen cystal, a bod y bylchau yn y wal yn cael eu cau, roedden nhw’n wyllt. A dyma nhw’n cynllwynio gyda’i gilydd i ymosod ar Jerwsalem a chreu helynt. Felly dyma ni’n gweddïo ar ein Duw, a gosod gwylwyr i edrych allan amdanyn nhw ddydd a nos. Roedd pobl Jwda’n dweud, “Mae’r gweithwyr yn blino a stryffaglu, ac mae cymaint o rwbel. Does dim gobaith i ni adeiladu a gorffen y gwaith ar y wal yma!” Yna roedd ein gelynion yn brolio, “Cyn iddyn nhw sylweddoli beth sy’n digwydd, byddwn ni yn eu canol yn eu lladd nhw, a bydd y gwaith yn dod i ben!” Ac roedd yr Iddewon oedd yn byw wrth eu hymyl nhw wedi’n rhybuddio ni lawer gwaith am eu cynllwynion yn ein herbyn ni. Felly dyma fi’n gosod pobl i amddiffyn y rhannau isaf, tu ôl i’r wal yn y mannau mwyaf agored. Gosodais nhw bob yn glan, gyda cleddyfau, gwaywffyn a bwâu. Yna ar ôl edrych dros y cwbl, dyma fi’n codi i annerch yr arweinwyr, y swyddogion, a gweddill y bobl, a dweud, “Peidiwch bod â’u hofn nhw. Cofiwch mor fawr a rhyfeddol ydy’r Meistr! Byddwch barod i ymladd dros eich pobl, eich meibion, eich merched, eich gwragedd a’ch cartrefi!” Pan glywodd ein gelynion ein bod ni’n gwybod am eu cynllwyn, dyma Duw yn eu rhwystro nhw. Felly dyma pawb yn mynd yn ôl i weithio ar y wal. O’r diwrnod hwnnw ymlaen roedd hanner y dynion ifanc oedd gen i yn adeiladu a’r hanner arall yn amddiffyn. Roedd ganddyn nhw arfwisg, ac roedden nhw’n cario gwaywffyn, tarianau a bwâu. Roedd y swyddogion yn sefyll tu ôl i bobl Jwda oedd yn adeiladu’r wal. Roedd y rhai oedd yn cario beichiau yn gwneud hynny gydag un llaw, ac yn dal arf yn y llaw arall. Ac roedd gan bob un o’r adeiladwyr gleddyf wedi’i strapio am ei ganol tra oedd yn gweithio. Ond roedd canwr y corn hwrdd yn aros gyda mi. Yna dyma fi’n dweud wrth yr arweinwyr, y swyddogion a gweddill y bobl, “Mae gynnon ni lot o waith caled i’w wneud, a dŷn ni’n bell oddi wrth ein gilydd ar y wal. Pan fyddwch chi’n clywed y corn hwrdd yn cael ei ganu, dylai pawb gasglu at ei gilydd yno. Bydd ein Duw yn ymladd droson ni!” Felly dyma ni’n bwrw ymlaen gyda’r gwaith o fore gwyn tan nos, gyda’r hanner ohonon ni’n cario gwaywffyn. Peth arall ddwedais i bryd hynny oedd, “Dylai pawb aros dros nos yn Jerwsalem (y gweithwyr a’r rhai sy’n eu hamddiffyn). Byddan nhw’n gwarchod y ddinas dros nos, ac yn gweithio yn ystod y dydd.” Roedden ni i gyd yn cysgu yn ein dillad gwaith – fi a’m gweision, y gweithwyr a’r gwylwyr oedd gyda ni. Ac roedd pawb yn cario arf yn ei law bob amser.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Nehemeia 4:7-23