Pan glywais hyn i gyd, dyma fi’n eistedd i lawr. Rôn i’n crio ac yn galaru am ddyddiau, a bues i’n ymprydio ac yn gweddïo ar Dduw y nefoedd. A dyma fi’n dweud, “O ARGLWYDD, Duw’r nefoedd, plîs! Ti’n Dduw mawr a rhyfeddol, yn Dduw mor hael, ac yn cadw dy ymrwymiad i’r rhai sy’n dy garu di ac yn gwneud beth ti’n ddweud. O, plîs edrych a gwrando ar weddi dy was. Gwranda ar beth dw i’n ei weddïo ddydd a nos ar ran dy weision, pobl Israel. Dw i’n cyffesu ein bod ni wedi pechu yn dy erbyn di – fi a’m teulu, a phobl Israel i gyd. Dŷn ni wedi ymddwyn yn ofnadwy, a heb gadw’r gorchmynion, y rheolau a’r canllawiau wnest ti eu rhoi i dy was Moses. Plîs cofia beth ddwedaist ti wrth Moses: ‘Os byddwch chi’n anffyddlon, bydda i’n eich gyrru chi ar chwâl drwy’r gwledydd. Ond os byddwch chi’n troi a gwneud beth dw i’n ddweud, hyd yn oed os ydy’r bobl wedi’u chwalu i ben draw’r byd, bydda i’n eu casglu nhw yn ôl i’r lle dw i wedi dewis byw ynddo.’ Dy weision di, dy bobl di ydyn nhw, ac rwyt wedi defnyddio dy rym i’w gollwng nhw’n rhydd. Plîs, o ARGLWYDD, gwrando ar weddi dy was, ac ar weddïau pawb arall sy’n awyddus i dy barchu di. Helpa dy was i lwyddo heddiw, a gwna i’r dyn yma fod yn garedig ata i.” Fi oedd y bwtler oedd yn dod â gwin i’r brenin.
Darllen Nehemeia 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Nehemeia 1:4-11
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos