Yn syth wedyn dyma Iesu’n gwneud i’w ddisgyblion fynd yn ôl i’r cwch a chroesi drosodd o’i flaen i Bethsaida, tra oedd e’n anfon y dyrfa adre. Ar ôl ffarwelio gyda nhw, aeth i ben mynydd er mwyn cael lle tawel i weddïo. Roedd hi’n nosi, a’r cwch ar ganol y llyn, ac yntau ar ei ben ei hun ar y tir. Gwelodd fod y disgyblion yn cael trafferthion wrth geisio rhwyfo yn erbyn y gwynt. Yna rywbryd ar ôl tri o’r gloch y bore aeth Iesu allan atyn nhw, gan gerdded ar y dŵr. Roedd fel petai’n mynd heibio iddyn nhw, a dyma nhw’n ei weld yn cerdded ar y llyn. Roedden nhw’n meddwl eu bod yn gweld ysbryd, a dyma nhw’n gweiddi mewn ofn. Roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. Ond dyma Iesu’n dweud wrthyn nhw, “Mae’n iawn! Fi ydy e. Peidiwch bod ag ofn.” Yna, wrth iddo ddringo i mewn i’r cwch, dyma’r gwynt yn tawelu. Roedden nhw wedi dychryn go iawn, ac mewn sioc. Doedden nhw ddim wedi deall arwyddocâd y torthau o fara; roedden nhw mor ystyfnig.
Darllen Marc 6
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Marc 6:45-52
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos