Ond gwelodd Herodias ei chyfle pan oedd Herod yn dathlu ei ben-blwydd. Roedd ei brif swyddogion, penaethiaid y fyddin a phobl bwysig Galilea i gyd wedi’u gwahodd i’r parti. Yn ystod y dathlu dyma ferch Herodias yn perfformio dawns. Roedd hi wedi plesio Herod a’i westeion yn fawr. Dwedodd Herod wrthi, “Gofyn am unrhyw beth gen i, a bydda i’n ei roi i ti.” Rhoddodd ei air iddi ar lw, “Cei di beth bynnag rwyt ti eisiau, hyd yn oed hanner y deyrnas!”
Aeth y ferch allan at ei mam, “Am beth wna i ofyn?”, meddai wrthi.
“Gofyn iddo dorri pen Ioan Fedyddiwr,” meddai ei mam.
Felly dyma hi yn brysio’n ôl i mewn at y brenin, gyda’i chais: “Dw i eisiau i ti dorri pen Ioan Fedyddiwr nawr, a’i roi i mi ar hambwrdd.”
Doedd y brenin ddim yn hapus o gwbl – roedd yn hollol ddigalon. Ond am ei fod wedi addo ar lw o flaen ei westeion, doedd ganddo mo’r wyneb i’w gwrthod hi. Felly dyma fe’n anfon un o’i filwyr ar unwaith i ddienyddio Ioan. “Tyrd â’i ben yn ôl yma,” meddai. Felly aeth y milwr i’r carchar a thorri pen Ioan i ffwrdd. Daeth yn ei ôl gyda’r pen ar hambwrdd a’i roi i’r ferch, ac aeth hithau ag e i’w mam. Pan glywodd disgyblion Ioan beth oedd wedi digwydd dyma nhw’n cymryd y corff a’i roi mewn bedd.
Pan gyrhaeddodd yr apostolion yn ôl, dyma nhw’n dechrau dweud yn frwd wrth Iesu am y cwbl roedden nhw wedi’i wneud a’i ddysgu. Ond roedd cymaint o bobl yn mynd a dod nes bod dim cyfle iddyn nhw fwyta hyd yn oed. Felly dyma Iesu’n dweud, “Gadewch i ni fynd i ffwrdd i rywle tawel i chi gael gorffwys.”
I ffwrdd â nhw mewn cwch i le tawel i fod ar eu pennau’u hunain. Ond roedd llawer o bobl wedi’u gweld yn gadael, ac wedi cerdded ar frys o’r holl drefi a chyrraedd yno o’u blaenau. Pan gyrhaeddodd Iesu’r lan a gweld y dyrfa fawr yno, roedd yn teimlo i’r byw drostyn nhw, am eu bod fel defaid heb fugail i ofalu amdanyn nhw. Felly treuliodd amser yn dysgu llawer o bethau iddyn nhw.
Roedd hi’n mynd yn hwyr, felly dyma’i ddisgyblion yn dod ato a dweud, “Mae’r lle yma’n anial, ac mae’n mynd yn hwyr. Anfon y bobl i ffwrdd i’r pentrefi sydd o gwmpas, iddyn nhw gael mynd i brynu rhywbeth i’w fwyta.”
Ond atebodd Iesu, “Rhowch chi rywbeth i’w fwyta iddyn nhw.” “Beth? Ni?” medden nhw, “Byddai’n costio ffortiwn i gael bwyd iddyn nhw i gyd!”
“Ewch i weld faint o fwyd sydd ar gael,” meddai. Dyma nhw’n gwneud hynny, a dod yn ôl a dweud, “Pum torth fach a dau bysgodyn!”
Dyma Iesu’n dweud wrthyn nhw am wneud i’r bobl eistedd mewn grwpiau ar y glaswellt. Felly dyma pawb yn eistedd mewn grwpiau o hanner cant i gant. Wedyn dyma Iesu’n cymryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw. Torrodd y bara a’i roi i’w ddisgyblion i’w rannu i’r bobl, a gwneud yr un peth gyda’r ddau bysgodyn. Cafodd pawb ddigon i’w fwyta, a dyma nhw’n codi deuddeg llond basged o dameidiau o fara a physgod oedd dros ben. Roedd tua pum mil o ddynion wedi cael eu bwydo yno!