Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 6:1-32

Marc 6:1-32 BNET

Gadawodd Iesu’r ardal honno a mynd yn ôl gyda’i ddisgyblion i Nasareth, lle cafodd ei fagu. Ar y dydd Saboth dechreuodd ddysgu yn y synagog. Roedd y bobl oedd yn gwrando arno yn rhyfeddu. “Ble wnaeth hwn ddysgu’r pethau yma i gyd?” medden nhw. “Ble gafodd e’r holl ddoethineb, a’r gallu i wneud gwyrthiau? Saer ydy e! Mab Mair! Brawd Iago, Joseff, Jwdas a Simon! Mae ei chwiorydd yn dal i fyw yn y pentref ma!” Roedden nhw wedi cymryd yn ei erbyn. Dyma Iesu’n dweud wrthyn nhw, “Mae proffwyd yn cael ei barchu ym mhobman ond yn y dre lle cafodd ei fagu – gan ei bobl ei hun a’i deulu ei hun!” Felly allai Iesu ddim gwneud rhyw lawer o wyrthiau yno, dim ond gosod ei ddwylo ar ychydig bobl oedd yn sâl iawn i’w hiacháu nhw. Roedd yn rhyfeddu eu bod nhw mor amharod i gredu. Aeth Iesu ar daith o gwmpas y pentrefi yn dysgu’r bobl. Galwodd y deuddeg disgybl at ei gilydd, a’u hanfon allan bob yn ddau a rhoi awdurdod iddyn nhw i fwrw allan ysbrydion drwg. Dyma ddwedodd wrthyn nhw: “Peidiwch mynd â dim byd ond ffon gyda chi – dim bwyd, dim bag teithio na hyd yn oed newid mân. Gwisgwch sandalau, ond peidiwch mynd â dillad sbâr. Ble bynnag ewch chi, arhoswch yn yr un tŷ nes byddwch yn gadael y dref honno. Os bydd dim croeso i chi yn rhywle, neu os bydd pobl yn gwrthod gwrando arnoch, ysgydwch y llwch oddi ar eich traed wrth adael. Bydd hynny’n arwydd o farn Duw arnyn nhw!” Felly i ffwrdd â nhw i bregethu fod rhaid i bobl droi at Dduw a newid eu ffyrdd. Roedden nhw’n bwrw allan llawer o gythreuliaid ac yn eneinio llawer o bobl ag olew a’u hiacháu nhw. Roedd y Brenin Herod wedi clywed am beth oedd yn digwydd, am fod pawb yn gwybod am Iesu. Roedd rhai yn dweud, “Ioan Fedyddiwr sydd wedi dod yn ôl yn fyw. Dyna pam mae’n gallu gwneud gwyrthiau.” Roedd rhai yn dweud, “Elias ydy e”, ac eraill yn meddwl ei fod yn broffwyd, fel un o broffwydi mawr y gorffennol. Pan glywodd Herod beth oedd Iesu’n ei wneud, dwedodd ar unwaith, “Ioan ydy e! Torrais ei ben i ffwrdd ac mae wedi dod yn ôl yn fyw!” Herod oedd wedi gorchymyn i Ioan Fedyddiwr gael ei arestio a’i roi yn y carchar. Roedd wedi gwneud hynny o achos ei berthynas â Herodias. Er ei bod yn wraig i’w frawd Philip, roedd Herod wedi’i phriodi. Roedd Ioan wedi dweud wrtho dro ar ôl tro, “Dydy’r Gyfraith ddim yn caniatáu i ti gymryd gwraig dy frawd.” Felly roedd Herodias yn dal dig yn erbyn Ioan, ac eisiau ei ladd. Ond doedd hi ddim yn gallu am fod gan Herod barch mawr at Ioan. Roedd yn ei amddiffyn am ei fod yn gwybod fod Ioan yn ddyn duwiol a chyfiawn. Er bod Herod yn anesmwyth wrth glywed beth oedd Ioan yn ei ddweud, roedd yn mwynhau gwrando arno. Ond gwelodd Herodias ei chyfle pan oedd Herod yn dathlu ei ben-blwydd. Roedd ei brif swyddogion, penaethiaid y fyddin a phobl bwysig Galilea i gyd wedi’u gwahodd i’r parti. Yn ystod y dathlu dyma ferch Herodias yn perfformio dawns. Roedd hi wedi plesio Herod a’i westeion yn fawr. Dwedodd Herod wrthi, “Gofyn am unrhyw beth gen i, a bydda i’n ei roi i ti.” Rhoddodd ei air iddi ar lw, “Cei di beth bynnag rwyt ti eisiau, hyd yn oed hanner y deyrnas!” Aeth y ferch allan at ei mam, “Am beth wna i ofyn?”, meddai wrthi. “Gofyn iddo dorri pen Ioan Fedyddiwr,” meddai ei mam. Felly dyma hi yn brysio’n ôl i mewn at y brenin, gyda’i chais: “Dw i eisiau i ti dorri pen Ioan Fedyddiwr nawr, a’i roi i mi ar hambwrdd.” Doedd y brenin ddim yn hapus o gwbl – roedd yn hollol ddigalon. Ond am ei fod wedi addo ar lw o flaen ei westeion, doedd ganddo mo’r wyneb i’w gwrthod hi. Felly dyma fe’n anfon un o’i filwyr ar unwaith i ddienyddio Ioan. “Tyrd â’i ben yn ôl yma,” meddai. Felly aeth y milwr i’r carchar a thorri pen Ioan i ffwrdd. Daeth yn ei ôl gyda’r pen ar hambwrdd a’i roi i’r ferch, ac aeth hithau ag e i’w mam. Pan glywodd disgyblion Ioan beth oedd wedi digwydd dyma nhw’n cymryd y corff a’i roi mewn bedd. Pan gyrhaeddodd yr apostolion yn ôl, dyma nhw’n dechrau dweud yn frwd wrth Iesu am y cwbl roedden nhw wedi’i wneud a’i ddysgu. Ond roedd cymaint o bobl yn mynd a dod nes bod dim cyfle iddyn nhw fwyta hyd yn oed. Felly dyma Iesu’n dweud, “Gadewch i ni fynd i ffwrdd i rywle tawel i chi gael gorffwys.” I ffwrdd â nhw mewn cwch i le tawel i fod ar eu pennau’u hunain.