Roedd yr arbenigwyr yn y Gyfraith, oedd wedi teithio o Jerwsalem, yn dweud amdano, “Mae wedi’i feddiannu gan Beelsebwl, tywysog y cythreuliaid! Dyna sut mae’n gallu bwrw allan gythreuliaid!” Felly dyma Iesu’n eu galw draw ac yn eu hateb drwy ddefnyddio darlun: “Sut mae Satan yn gallu bwrw ei hun allan? Dydy teyrnas lle mae rhyfel cartref byth yn mynd i sefyll! Neu os ydy teulu’n ymladd â’i gilydd o hyd, bydd y teulu hwnnw’n chwalu. A’r un fath, os ydy Satan yn ymladd yn erbyn ei hun a’i deyrnas wedi’i rhannu, fydd e ddim yn sefyll; mae hi ar ben arno! Y gwir ydy, all neb fynd i mewn i gartre’r dyn cryf a dwyn ei eiddo heb rwymo’r dyn cryf yn gyntaf. Bydd yn gallu dwyn popeth o’i dŷ wedyn. Credwch chi fi – mae maddeuant i’w gael am bob pechod, hyd yn oed am gabledd, ond does dim maddeuant i’r sawl sy’n cablu yn erbyn yr Ysbryd Glân; mae’r person hwnnw’n euog o bechod sy’n aros am byth.” (Dwedodd hyn am eu bod wedi dweud fod ysbryd drwg ynddo.) Dyna pryd y cyrhaeddodd mam Iesu a’i frodyr yno. Dyma nhw’n sefyll y tu allan, ac yn anfon rhywun i’w alw. Roedd tyrfa yn eistedd o’i gwmpas, a dyma nhw’n dweud wrtho, “Mae dy fam a dy frodyr y tu allan yn edrych amdanat ti.” Atebodd, “Pwy ydy fy mam a’m brodyr i?” “Dyma fy mam a’m brodyr i!” meddai, gan edrych ar y rhai oedd yn eistedd mewn cylch o’i gwmpas. “Mae pwy bynnag sy’n gwneud beth mae Duw eisiau yn frawd a chwaer a mam i mi.”
Darllen Marc 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Marc 3:22-35
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos