Roedd rhai o’r arbenigwyr yn y Gyfraith yno. Yr hyn oedd yn mynd drwy’u meddyliau nhw oedd, “Sut mae’n gallu dweud y fath beth? Cabledd ydy dweud peth felly! Duw ydy’r unig un sy’n gallu maddau pechodau!” Roedd Iesu’n gwybod yn iawn mai dyna oedden nhw’n ei feddwl, ac meddai wrthyn nhw, “Pam dych chi’n meddwl mod i’n cablu? Ydy’n haws dweud wrth y dyn ‘Mae dy bechodau wedi’u maddau,’ neu ‘Cod ar dy draed, cymer dy fatras a cherdda’? Cewch weld fod gen i, Fab y Dyn, hawl i faddau pechodau ar y ddaear!” A dyma Iesu’n troi at y dyn oedd wedi’i barlysu, a dweud wrtho, “Cod ar dy draed, cymer dy fatras, a dos adre.”
Darllen Marc 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Marc 2:6-11
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos