Roedd hi’n nos Wener (sef y diwrnod cyn y Saboth). Wrth iddi ddechrau nosi aeth un o aelodau blaenllaw y Sanhedrin i weld Peilat – dyn o’r enw Joseff oedd yn dod o Arimathea. Roedd Joseff yn ddyn duwiol oedd yn disgwyl am deyrnasiad Duw, a gofynnodd i Peilat am ganiatâd i gymryd corff Iesu. Roedd Peilat yn methu credu bod Iesu eisoes wedi marw, a galwodd am y capten a gofyn iddo a oedd wedi marw ers peth amser. Pan ddwedodd hwnnw ei fod, rhoddodd Peilat ganiatâd i Joseff gymryd y corff. Ar ôl prynu lliain dyma Joseff yn tynnu’r corff i lawr a’i lapio yn y lliain. Yna fe’i rhoddodd i orwedd mewn bedd oedd wedi’i naddu yn y graig. Wedyn rholiodd garreg dros geg y bedd. Roedd Mair Magdalen a Mair mam Joses yno’n edrych lle cafodd ei osod.
Darllen Marc 15
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Marc 15:42-47
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos