Tra oedden nhw’n bwyta dyma Iesu’n cymryd torth, ac yna, ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, ei thorri a’i rhannu i’w ddisgyblion. “Cymerwch y bara yma” meddai, “Dyma fy nghorff i.” Yna cododd y cwpan, adrodd y weddi o ddiolch eto a’i basio iddyn nhw, a dyma nhw i gyd yn yfed ohono. “Dyma fy ngwaed,” meddai, “sy’n selio ymrwymiad Duw i’w bobl. Mae’n cael ei dywallt ar ran llawer o bobl. Credwch chi fi, fydda i ddim yn yfed gwin eto, nes daw’r diwrnod hwnnw pan fydda i’n yfed o’r newydd pan fydd Duw yn teyrnasu.” Wedyn ar ôl canu emyn, dyma nhw’n mynd allan i Fynydd yr Olewydd.
Darllen Marc 14
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Marc 14:22-26
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos