Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 14:12-26

Marc 14:12-26 BNET

Ar ddiwrnod cyntaf Gŵyl y Bara Croyw (hynny ydy, y diwrnod pan oedd hi’n draddodiad i ladd oen y Pasg), gofynnodd disgyblion Iesu iddo, “Ble rwyt ti am fwyta swper y Pasg? – i ni fynd yno i’w baratoi.” Felly anfonodd ddau o’i ddisgyblion i Jerwsalem, a dweud wrthyn nhw, “Wrth fynd i mewn i’r ddinas, bydd dyn yn dod i’ch cyfarfod yn cario llestr dŵr. Ewch ar ei ôl, a gofyn i berchennog y tŷ y bydd yn mynd iddo, ‘Mae’r athro eisiau gwybod ble mae’r ystafell westai iddo ddathlu’r Pasg gyda’i ddisgyblion?’ Bydd yn mynd â chi i ystafell fawr i fyny’r grisiau wedi’i pharatoi’n barod. Gwnewch swper i ni yno.” Felly, i ffwrdd â’r disgyblion i’r ddinas, a digwyddodd popeth yn union fel roedd Iesu wedi dweud. Felly dyma nhw’n paratoi swper y Pasg yno. Yn gynnar y noson honno aeth Iesu yno gyda’r deuddeg disgybl. Tra oedden nhw’n bwyta, dyma Iesu’n dweud, “Wir i chi, mae un ohonoch chi’n mynd i’m bradychu i. Un ohonoch chi sy’n bwyta gyda mi yma.” Dyma nhw’n mynd yn drist iawn, a dweud un ar ôl y llall, “Dim fi ydy’r un, nage?” “Un ohonoch chi’r deuddeg,” meddai Iesu, “Un ohonoch chi sy’n bwyta yma, ac yn trochi ei fara yn y ddysgl saws gyda mi. Rhaid i mi, Mab y Dyn, farw yn union fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud. Ond gwae’r un sy’n mynd i’m bradychu i! Byddai’n well arno petai erioed wedi cael ei eni!” Tra oedden nhw’n bwyta dyma Iesu’n cymryd torth, ac yna, ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, ei thorri a’i rhannu i’w ddisgyblion. “Cymerwch y bara yma” meddai, “Dyma fy nghorff i.” Yna cododd y cwpan, adrodd y weddi o ddiolch eto a’i basio iddyn nhw, a dyma nhw i gyd yn yfed ohono. “Dyma fy ngwaed,” meddai, “sy’n selio ymrwymiad Duw i’w bobl. Mae’n cael ei dywallt ar ran llawer o bobl. Credwch chi fi, fydda i ddim yn yfed gwin eto, nes daw’r diwrnod hwnnw pan fydda i’n yfed o’r newydd pan fydd Duw yn teyrnasu.” Wedyn ar ôl canu emyn, dyma nhw’n mynd allan i Fynydd yr Olewydd.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Marc 14:12-26