“Wyddoch chi pam ysgrifennodd Moses y ddeddf yna?” meddai Iesu. “Am fod pobl fel chi mor ystyfnig! Pan greodd Duw bopeth ar y dechrau cyntaf, gwnaeth bobl ‘yn wryw ac yn fenyw’. ‘Felly bydd dyn yn gadael ei dad a’i fam, ac yn cael ei uno â’i wraig, a bydd y ddau yn dod yn un.’ Dim dau berson ar wahân ydyn nhw wedyn, ond uned. Felly ddylai neb wahanu beth mae Duw wedi’i uno!” Pan oedden nhw yn ôl yn y tŷ, dyma’r disgyblion yn holi Iesu am hyn Dwedodd wrthyn nhw: “Mae unrhyw un sy’n ysgaru ei wraig er mwyn priodi gwraig arall yn godinebu.” (Ac os ydy gwraig yn ysgaru ei gŵr er mwyn priodi dyn arall, mae hithau’n godinebu.)
Darllen Marc 10
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Marc 10:5-12
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos