Aeth Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, i siarad â Iesu. “Athro, dŷn ni eisiau gofyn ffafr,” medden nhw. “Beth ga i wneud i chi?” gofynnodd. Dyma nhw’n ateb, “Dŷn ni eisiau cael eistedd bob ochr i ti pan fyddi’n teyrnasu.” “Dych chi ddim yn gwybod am beth dych chi’n siarad!” meddai Iesu. “Allwch chi yfed o’r un gwpan chwerw â mi, neu gael eich bedyddio â’r un bedydd â mi?” “Gallwn,” medden nhw. Yna dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Byddwch chi’n yfed o’r un gwpan â mi, a chewch eich bedyddio â’r un bedydd a mi, ond dim fi sydd i ddweud pwy sy’n cael eistedd bob ochr i mi. Mae’r lleoedd hynny wedi’u cadw i bwy bynnag mae Duw wedi’u dewis.”
Darllen Marc 10
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Marc 10:35-40
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos