Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 8:1-13

Mathew 8:1-13 BNET

Roedd tyrfaoedd o bobl yn ei ddilyn pan ddaeth i lawr o ben y mynydd. Yna dyma ddyn oedd yn dioddef o’r gwahanglwyf yn dod ato a mynd ar ei liniau o’i flaen. “Arglwydd,” meddai, “gelli di fy ngwneud i’n iach os wyt ti eisiau.” Dyma Iesu’n estyn ei law a chyffwrdd y dyn. “Dyna dw i eisiau,” meddai, “bydd lân.” A’r eiliad honno cafodd y dyn ei wneud yn holliach! A dyma Iesu’n dweud wrtho, “Gwna’n siŵr dy fod ti’n dweud wrth neb beth sydd wedi digwydd. Dos i ddangos dy hun i’r offeiriad, a chyflwyno’r offrwm ddwedodd Moses y dylet ti ei gyflwyno, yn dystiolaeth i’r bobl dy fod ti wedi cael dy iacháu.” Wrth i Iesu fynd i mewn i Capernaum, daeth swyddog milwrol Rhufeinig ato yn pledio arno i’w helpu. “Arglwydd,” meddai, “mae ngwas i gartref, yn gorwedd yn ei wely wedi’i barlysu. Mae’n dioddef yn ofnadwy.” Atebodd Iesu, “Dof i’w iacháu.” Ond meddai’r swyddog wrtho, “Arglwydd, dw i ddim yn deilwng i ti ddod i mewn i nhŷ i. Does ond rhaid i ti ddweud a bydd fy ngwas yn cael ei iacháu. Mae swyddogion uwch fy mhen i yn rhoi gorchmynion i mi, ac mae gen innau filwyr odanaf fi. Dw i’n dweud ‘Dos’ wrth un, ac mae’n mynd; ‘Tyrd yma’ wrth un arall ac mae’n dod. Dw i’n dweud ‘Gwna hyn’ wrth fy ngwas, ac mae’n ei wneud.” Roedd Iesu wedi’i syfrdanu pan glywodd beth ddwedodd y dyn. Meddai wrth y rhai oedd yn ei ddilyn, “Wir i chi, dw i ddim wedi gweld neb o bobl Israel sydd â ffydd fel yna! Dw i’n dweud wrthoch chi, bydd llawer o bobl yn dod o bob rhan o’r byd ac yn eistedd i lawr i wledda gydag Abraham, Isaac a Jacob pan ddaw’r Un nefol i deyrnasu. Ond bydd ‘dinasyddion y deyrnas’ yn cael eu taflu allan i’r tywyllwch lle bydd pobl yn wylo’n chwerw ac mewn artaith.” Yna dwedodd Iesu wrth y swyddog milwrol, “Dos! Cei di beth wnest ti gredu allai ddigwydd.” A dyna’n union pryd cafodd y gwas ei iacháu.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Mathew 8:1-13