“Fydd pawb sy’n fy ngalw i’n ‘Arglwydd’ ddim yn dod dan deyrnasiad yr Un nefol, dim ond y bobl hynny sy’n gwneud beth mae fy Nhad yn y nefoedd yn ei ofyn. Ar y diwrnod hwnnw pan fydd Duw yn dod i farnu, bydd llawer o bobl yn dweud wrtho i ‘Arglwydd, Arglwydd, oni fuon ni’n proffwydo ar dy ran di, ac yn bwrw allan gythreuliaid a gwneud llawer iawn o wyrthiau eraill?’ Ond bydda i’n dweud wrthyn nhw’n blaen, ‘Dw i erioed wedi’ch nabod chi. Ewch o ma! Pobl ddrwg ydych chi!’ “Felly dyma sut bobl ydy’r rhai sy’n gwrando arna i ac yna’n gwneud beth dw i’n ddweud. Maen nhw fel dyn call sy’n adeiladu ei dŷ ar graig solet. Daeth glaw trwm a llifogydd a gwyntoedd cryf i daro yn erbyn y tŷ hwnnw, ond wnaeth y tŷ ddim syrthio am fod ei sylfeini ar graig solet. Ond mae pawb sy’n gwrando arna i heb wneud beth dw i’n ddweud yn debyg i ddyn dwl sy’n adeiladu ei dŷ ar dywod! Daeth glaw trwm a llifogydd a gwyntoedd cryf i daro yn erbyn y tŷ hwnnw, a syrthiodd y tŷ a chwalu’n llwyr.” Pan oedd Iesu wedi gorffen dweud y pethau yma, roedd y tyrfaoedd yn rhyfeddu at beth roedd yn ei ddysgu.
Darllen Mathew 7
Gwranda ar Mathew 7
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 7:21-28
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos