Peidiwch chi â bod fel yna. Mae’ch Tad chi’n gwybod yn union beth sydd ei angen arnoch chi cyn i chi ddweud gair. “Dyma sut dylech chi weddïo: ‘Ein Tad sydd yn y nefoedd, dŷn ni eisiau i dy enw di gael ei anrhydeddu. Dŷn ni eisiau i ti ddod i deyrnasu, ac i’r cwbl sy’n dda yn dy olwg di ddigwydd yma ar y ddaear fel mae’n digwydd yn y nefoedd. Rho i ni ddigon o fwyd i’n cadw ni’n fyw am heddiw. Maddau i ni am bob dyled i ti yn union fel dŷn ni’n maddau i’r rhai sydd mewn dyled i ni. Cadw ni rhag syrthio pan fyddwn ni’n cael ein profi, ac achub ni o afael y drwg.’
Darllen Mathew 6
Gwranda ar Mathew 6
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 6:8-13
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos