“Dych chi wedi clywed fod hyn yn cael ei ddweud, ‘Llygad am lygad, a dant am ddant.’ Ond dw i’n dweud wrthoch chi: Peidiwch ceisio talu’n ôl. Os ydy rhywun yn rhoi clatsien i ti ar dy foch dde, cynnig y foch arall iddo. Ac os ydy rhywun am dy siwio a chymryd dy grys, rho dy gôt iddo hefyd. Os ydy milwr Rhufeinig yn dy orfodi i gario ei bac am un filltir, dos di ddwy. Rho i bwy bynnag sy’n gofyn i ti am rywbeth, a phaid gwrthod y sawl sydd eisiau benthyg rhywbeth gen ti. “Dych chi wedi clywed i hyn gael ei ddweud: ‘Rwyt i garu dy gymydog’ (ac ‘i gasáu dy elyn’). Ond dw i’n dweud wrthoch chi: Carwch eich gelynion a gweddïwch dros y rhai sy’n eich erlid chi! Wedyn byddwch yn dangos eich bod yn blant i’ch Tad yn y nefoedd, am mai dyna’r math o beth mae e’n ei wneud – mae’n gwneud i’r haul dywynnu ar y drwg a’r da, ac yn rhoi glaw i’r rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn a’r rhai sydd ddim. Pam dylech chi gael gwobr am garu’r bobl hynny sy’n eich caru chi? Onid ydy hyd yn oed y rhai sy’n casglu trethi i Rufain yn gwneud cymaint â hynny? Ac os mai dim ond eich teip chi o bobl dych chi’n eu cyfarch, beth dych chi’n ei wneud sy’n wahanol? Mae hyd yn oed y paganiaid yn gwneud hynny! Ond rhaid i chi fod yn berffaith, yn union fel mae’ch Tad nefol yn berffaith.
Darllen Mathew 5
Gwranda ar Mathew 5
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 5:38-48
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos