Ychydig cyn iddi nosi, dyma ddyn o’r enw Joseff (dyn cyfoethog o Arimathea oedd yn un o ddilynwyr Iesu) yn mynd at Peilat. Aeth i ofyn i Peilat am ganiatâd i gymryd corff Iesu, a dyma Peilat yn gorchymyn rhoi’r corff iddo. Dyma Joseff yn cymryd y corff a’i lapio mewn lliain glân. Yna fe’i rhoddodd i orwedd yn ei fedd newydd ei hun, un wedi’i naddu yn y graig. Wedyn, ar ôl rholio carreg drom dros geg y bedd, aeth i ffwrdd. Roedd Mair Magdalen a’r Fair arall wedi bod yno’n eistedd gyferbyn â’r bedd yn gwylio’r cwbl. Y diwrnod wedyn, hynny ydy y dydd Saboth, dyma’r prif offeiriaid a’r Phariseaid yn mynd i weld Peilat. “Syr,” medden nhw wrtho, “un peth ddwedodd y twyllwr yna pan oedd e’n dal yn fyw oedd, ‘Bydda i’n dod yn ôl yn fyw ymhen deuddydd.’ Felly wnei di orchymyn i’r bedd gael ei wneud yn ddiogel hyd drennydd. Bydd hynny’n rhwystro’i ddisgyblion rhag dod a dwyn y corff, a mynd o gwmpas wedyn yn dweud wrth bobl ei fod wedi dod yn ôl yn fyw. Byddai’r twyll yna’n waeth na’r twyll cyntaf!” “Cymerwch filwyr,” meddai Peilat, “ac ewch i wneud y bedd mor ddiogel ag y gallwch chi.” Felly dyma nhw’n mynd a gosod sêl ar y garreg oedd dros geg y bedd, a rhoi milwyr ar ddyletswydd i’w gwarchod.
Darllen Mathew 27
Gwranda ar Mathew 27
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 27:57-66
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos