Roedd y prif offeiriaid a’r Sanhedrin (hynny ydy yr uchel-lys Iddewig) yn edrych am dystion oedd yn barod i ddweud celwydd am Iesu, er mwyn iddyn nhw ei ddedfrydu i farwolaeth. Ond er i lawer o bobl ddod ymlaen a dweud celwydd amdano, chawson nhw ddim tystiolaeth allen nhw ei ddefnyddio yn ei erbyn. Yn y diwedd dyma ddau yn dod ymlaen a dweud, “Dwedodd y dyn yma, ‘Galla i ddinistrio teml Dduw a’i hadeiladu eto o fewn tri diwrnod.’” Felly dyma’r archoffeiriad yn codi ar ei draed a dweud wrth Iesu, “Wel, oes gen ti ateb? Beth am y dystiolaeth yma yn dy erbyn di?” Ond ddwedodd Iesu ddim. Yna dyma’r archoffeiriad yn dweud wrtho, “Dw i’n dy orchymyn di yn enw’r Duw byw i’n hateb ni! Ai ti ydy’r Meseia, Mab Duw?” “Ie,” meddai Iesu, “fel rwyt ti’n dweud. Ond dw i’n dweud wrthoch chi i gyd: Rhyw ddydd byddwch chi’n fy ngweld i, Mab y Dyn, yn llywodraethu gyda’r Un Grymus ac yn dod yn ôl ar gymylau’r awyr.” Wrth glywed beth ddwedodd Iesu, dyma’r archoffeiriad yn rhwygo’i ddillad. “Cabledd!” meddai, “Pam mae angen tystion arnon ni?! Dych chi i gyd newydd ei glywed yn cablu. Beth ydy’ch dyfarniad chi?” Dyma nhw’n ateb, “Rhaid iddo farw!”
Darllen Mathew 26
Gwranda ar Mathew 26
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 26:59-66
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos