Dyma Iesu’n mynd gyda’i ddisgyblion i le o’r enw Gethsemane. “Eisteddwch chi yma,” meddai wrthyn nhw, “dw i’n mynd draw acw i weddïo.” Aeth â Pedr a dau fab Sebedeus gydag e, a dechreuodd deimlo tristwch ofnadwy a gwewyr meddwl oedd yn ei lethu. “Mae’r tristwch dw i’n ei deimlo yn ddigon i’m lladd i,” meddai wrthyn nhw, “Arhoswch yma i wylio gyda mi.” Aeth yn ei flaen ychydig, a syrthio ar ei wyneb ar lawr a gweddïo, “Fy Nhad, gad i’r cwpan chwerw yma fynd i ffwrdd os ydy hynny’n bosib. Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau.” Pan aeth yn ôl at ei ddisgyblion roedden nhw’n cysgu. A meddai wrth Pedr, “Felly, allech chi ddim cadw golwg gyda mi am un awr fechan? Cadwch yn effro, a gweddïwch y byddwch chi ddim yn syrthio pan gewch chi’ch profi. Mae’r ysbryd yn frwd, ond y corff yn wan.” Yna aeth i ffwrdd a gweddïo eto, “Fy Nhad, os ydy hi ddim yn bosib cymryd y cwpan chwerw yma i ffwrdd heb i mi yfed ohono, gwna i beth rwyt ti eisiau.” Ond pan ddaeth yn ôl, roedden nhw wedi syrthio i gysgu eto – roedden nhw’n methu’n lân â chadw eu llygaid ar agor. Felly gadawodd nhw a mynd i ffwrdd i weddïo yr un peth eto y drydedd waith. Yna daeth yn ôl at ei ddisgyblion a dweud wrthyn nhw, “Dych chi’n cysgu eto? Yn dal i orffwys? Edrychwch! Mae’r foment wedi dod. Dw i, Mab y Dyn, ar fin cael fy mradychu i afael pechaduriaid.
Darllen Mathew 26
Gwranda ar Mathew 26
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 26:36-45
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos