Yn gynnar y noson honno eisteddodd Iesu wrth y bwrdd gyda’r deuddeg disgybl. Tra oedden nhw’n bwyta, meddai wrthyn nhw, “Wir i chi, mae un ohonoch chi’n mynd i’m bradychu i.”
Roedden nhw’n drist iawn, ac yn dweud wrtho, un ar ôl y llall, “Meistr, dim fi ydy’r un, nage?”
Atebodd Iesu, “Bydd un ohonoch chi’n fy mradychu i – un sydd yma, ac wedi trochi ei fwyd yn y ddysgl saws gyda mi. Rhaid i mi, Mab y Dyn, farw yn union fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud. Ond gwae’r un sy’n mynd i’m bradychu i! Byddai’n well arno petai erioed wedi cael ei eni!”
Wedyn dyma Jwdas, yr un oedd yn mynd i’w fradychu, yn dweud, “Rabbi, dim fi ydy’r un, nage?”
“Ti sy’n dweud,” atebodd Iesu.
Tra oedden nhw’n bwyta, dyma Iesu’n cymryd torth, ac yna, ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, ei thorri a’i rhannu i’w ddisgyblion. “Cymerwch y bara yma, a’i fwyta,” meddai. “Dyma fy nghorff i.”
Yna cododd y cwpan, adrodd y weddi o ddiolch eto, a’i basio iddyn nhw, a dweud, “Yfwch o hwn, bob un ohonoch chi. Dyma fy ngwaed, sy’n selio ymrwymiad Duw i’w bobl. Mae’n cael ei dywallt ar ran llawer o bobl, i faddau eu pechodau nhw. Wir i chi, fydda i ddim yn yfed y gwin yma eto nes daw’r dydd y bydda i’n ei yfed o’r newydd gyda chi pan fydd fy Nhad yn teyrnasu.”
Wedyn, ar ôl canu emyn, dyma nhw’n mynd allan i Fynydd yr Olewydd.