Dewch, oherwydd chi roddodd fwyd i mi pan oeddwn i’n llwgu; chi roddodd ddiod i mi pan oedd syched arna i; chi roddodd groeso i mi pan doeddwn i ddim yn nabod neb; chi roddodd ddillad i mi pan oeddwn i’n noeth; chi ofalodd amdana i pan oeddwn i’n sâl; chi ddaeth i ymweld â mi pan oeddwn i yn y carchar.’ “Ond bydd y rhai cyfiawn yma yn gofyn iddo, ‘Arglwydd, pryd welon ni ti’n llwgu a rhoi rhywbeth i ti i’w fwyta, neu’n sychedig a rhoi diod i ti? Pryd wnaethon ni dy groesawu di pan oeddet ti’n nabod neb, neu roi dillad i ti pan oeddet ti’n noeth? Pryd welon ni ti’n sâl neu yn y carchar a mynd i ymweld â ti?’ A bydd y Brenin yn ateb, ‘Credwch chi fi, pan wnaethoch chi helpu’r person lleiaf pwysig sy’n perthyn i mi, gwnaethoch chi fy helpu i.’
Darllen Mathew 25
Gwranda ar Mathew 25
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 25:35-40
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos