Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 25:14-30

Mathew 25:14-30 BNET

“Pan ddaw’r Un nefol i deyrnasu, bydd yr un fath â dyn yn mynd oddi cartref: Galwodd ei weision at ei gilydd a rhoi ei eiddo i gyd yn eu gofal nhw. Rhoddodd swm arbennig yng ngofal pob un yn ôl ei allu – pum talent (hynny ydy tri deg mil o ddarnau arian) i un, dwy dalent (hynny ydy deuddeg mil) i un arall, ac un dalent (hynny ydy chwe mil) i’r llall. Wedyn aeth i ffwrdd ar ei daith. Dyma’r gwas oedd wedi cael pum talent yn bwrw iddi ar unwaith i farchnata gyda’i arian, a llwyddodd i ddyblu’r swm oedd ganddo. Llwyddodd yr un gyda dwy dalent i wneud yr un peth. Ond y cwbl wnaeth yr un gafodd un dalent oedd gwneud twll yn y ddaear a chadw arian ei feistr yn saff ynddo. “Aeth amser hir heibio, yna o’r diwedd daeth y meistr yn ôl adre a galw’i weision i roi cyfri am yr arian oedd wedi’i roi yn eu gofal nhw. Dyma’r un oedd wedi derbyn y pum talent yn dod a dweud wrtho, ‘Feistr, rhoist ti dri deg mil o ddarnau arian yn fy ngofal i. Dw i wedi llwyddo i wneud tri deg mil arall.’ “‘Da iawn ti!’ meddai’r meistr, ‘Rwyt ti’n weithiwr da, a galla i ddibynnu arnat ti! Rwyt ti wedi bod yn ffyddlon wrth drin yr ychydig rois i yn dy ofal di, felly dw i’n mynd i roi llawer iawn mwy o gyfrifoldeb i ti. Tyrd gyda mi i ddathlu!’ “Wedyn dyma’r un oedd wedi derbyn dwy dalent yn dod ac yn dweud, ‘Feistr, rhoist ti ddeuddeg mil o ddarnau arian yn fy ngofal i. Dw i wedi llwyddo i wneud deuddeg mil arall.’ “‘Da iawn ti!’ meddai’r meistr, ‘Rwyt ti’n weithiwr da, a galla i ddibynnu arnat ti! Rwyt ti wedi bod yn ffyddlon wrth drin yr ychydig rois i yn dy ofal di, felly dw i’n mynd i roi llawer iawn mwy o gyfrifoldeb i ti. Tyrd gyda mi i ddathlu!’ “Wedyn dyma’r un oedd wedi derbyn un dalent yn dod. ‘Feistr,’ meddai, ‘Mae pawb yn gwybod dy fod ti’n ddyn caled. Rwyt ti’n ecsbloetio pobl ac yn gwneud elw ar draul eu gwaith caled nhw. Roedd gen i ofn gwneud colled, felly dw i wedi cadw dy arian di’n saff mewn twll yn y ddaear. Felly dyma dy arian yn ôl – mae’r cwbl yna.’ “Dyma’r meistr yn ei ateb, ‘Y cnaf diog, da i ddim! Dw i’n ddyn caled ydw i – yn ecsbloetio pobl ac yn gwneud elw ar draul eu gwaith caled nhw? Dylet ti o leia fod wedi rhoi’r arian mewn cyfri cadw yn y banc, i mi ei gael yn ôl gyda rhyw fymryn o log!’ “Cymerwch yr arian oddi arno, a’i roi i’r un cyntaf sydd â deg talent ganddo. Bydd y rhai sydd wedi gwneud defnydd da o beth sydd ganddyn nhw yn derbyn mwy, a bydd ganddyn nhw ddigonedd. Ond am y rhai sy’n gwneud dim byd, bydd hyd yn oed yr ychydig sydd ganddyn nhw yn cael ei gymryd oddi arnyn nhw! Taflwch y gwas diwerth i’r tywyllwch, lle bydd pobl yn wylo’n chwerw ac mewn artaith!