Dyma nhw’n cyrraedd Bethffage wrth Fynydd yr Olewydd yn ymyl Jerwsalem, a dyma Iesu’n dweud wrth ddau ddisgybl, “Ewch i’r pentref acw sydd o’ch blaen chi, ac wrth fynd i mewn iddo dewch o hyd i asen wedi’i rhwymo a’i hebol gyda hi. Dewch â nhw yma i mi, ac os bydd rhywun yn ceisio’ch rhwystro, dwedwch, ‘Mae’r meistr eu hangen nhw; bydd yn eu hanfon yn ôl wedyn.’” Digwyddodd hyn er mwyn i beth ddwedodd Duw drwy ei broffwyd ddod yn wir: “Dwed wrth bobl Seion, ‘Edrych! Mae dy frenin yn dod! Mae’n addfwyn ac yn marchogaeth ar asen; ie, ar ebol asyn.’” I ffwrdd â’r disgyblion, a gwneud yn union beth ddwedodd Iesu wrthyn nhw. Pan ddaethon nhw â’r asen a’i hebol yn ôl, dyma nhw’n taflu’u cotiau drostyn nhw, a dyma Iesu’n eistedd arnyn nhw. Roedd tyrfa fawr yn gosod eu cotiau fel carped ar y ffordd o’i flaen, neu dorri dail o’r coed a’u lledu ar y ffordd. Roedd y dyrfa y tu blaen a’r tu ôl iddo yn gweiddi, “Hosanna! Clod i Fab Dafydd!” “Mae’r un sy’n dod i gynrychioli’r Arglwydd wedi’i fendithio’n fawr!” “Clod i Dduw yn y nefoedd uchaf!”
Darllen Mathew 21
Gwranda ar Mathew 21
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 21:1-9
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos